Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal Newyddenedigol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR192-0725-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr Ward yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n Nurse Newydd-enedigol dynamig a blaengar, yn barod i gymryd y cam nesaf yn eich siwrnai arweinyddiaeth?

Ydych chi’n ffynu mewn amgylchedd cyflym a thrugarog ble mae’ch arbenigedd a sgilliau gyda pobl wiry n gwneud gwahaniaeth?

Rydym yn edrych am arweinydd eithriadol i ymuno â’n tîm Newydd-enedigol fel Rheolwr Ward Uned Gofal Arbennig Babanod (SCBU) Band 7. Mae hwn yn fwy na swydd – mae’n gyfle i lunio’r dyfodol o ofal Newydd-enedigol, cefnogi arloesedd strategol ac arwain ag hygrededd clinigol.

Pwy rydym yn chwilio amdano?

·       Nyrs Newydd-enedigol cymwys a phrofiadol gyda phrofiad profedig mewn arweinyddiaeth tîm a datblygu gwasanaeth.

·       Cyfathrebwr naturiol gydag empathi, hydwythedd, a’r gallu i reoli staff gyda thosturi a phroffesiynoldeb.

·       Datryswr problemau ac arloeswr sy’n ffynnu ar awtonomi, ysgogiad, a gyrrwr newid cadarnhaol.

·       Rywun sy’n dod â phwyll, brwdfrydedd, ac sy’n addasu i bopeth maen nhw’n ei wneud.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Pam mae’r rol yma’n arbennig?

·       Arwain gyda Dylanwad: Cefnogi’r Uwch Nyrs yn yr Adran Newydd-enedigol i yrru rhagoriaeth weithredol a datblygiad strategol.

·       Ysbrydoli a Galluogi: Rheoli a mentora tîm ymroddedig, gan feithrin diwylliant o garedigrwydd, addasrwydd, a phroffesiynoldeb.

·       Byddwch y Newid: Arwain gwelliannau ansawdd a mentrau rheoli newid sy'n gwella gofal ar gyfer ein cleientiaid bach a phregus.

·       Parhau i fod yn Weithgar: Cadwch weladwyedd clinigol a chredadwyedd tra'n dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaeth ar lefel strategol.

·       Gweithio gyda Rhagoriaeth: Manteisio ar offer o'r radd flaenaf, gan gynnwys systemau awyru SLE6000 newydd a thyllau llethr laminar, sy'n cefnogi'r safonau uchaf o ofal newydd-enedigol.

·       Cydweithio â Chryfder: Byddwch yn rhan o dîm perinatal cryf gyda chysylltiadau gwaith sefydlog a moeseg rannauog o ofal teuluol integredig, ar draws Gwasanaethau Mamolaeth a Phaediatreg.

Beth fyddwch chi'n elwa?

·       Tîm arweinyddiaeth cefnogol a chyfleoedd ar gyfer tyfu proffesiynol.

·       Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gofal Newydd-enedigol ledled Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

·       Rôl sy'n cyfuno arweinyddiaeth glinigol gydag effaith strategol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o

fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 13/10/2025.

https://www.youtube.com/watch?v=yfcskQzCI_M
https://youtu.be/1WEoVahLRQE  
https://www.youtube.com/watch?v=Vgt03XPT6RQ

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, RCN neu RN rhan 8 o'r Gofrestr
  • Gradd mewn Nyrsio (Oedolion/Plant)
  • Profiad nyrsio cynhwysfawr ar lefel band 6 ym maes gofal newyddenedigol, ynghyd â gwybodaeth arbenigol amlwg am nyrsio newyddenedigol
  • Cymhwyster mewn Arbenigedd (QIS) ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys
  • Cynnal Bywyd Newyddenedigol
  • Dealltwriaeth amlwg o faterion proffesiynol a chyfredol ym maes nyrsio newyddenedigol
  • Dealltwriaeth amlwg o reoli adnoddau, iechyd a diogelwch, risg glinigol a materion ansawdd
  • Gwybodaeth helaeth am god ymarfer/ganllawiau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Dealltwriaeth ragorol o faterion diogelu plant
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ran pwysigrwydd ymchwil ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth sy'n cysylltu theori ag ymarfer
Meini prawf dymunol
  • Gradd Meistr mewn pwnc sy'n seiliedig ag iechyd
  • Dealltwriaeth o oruchwyliaeth glinigol/ymarfer myfyriol/hyfforddi
  • Cymhwyster arwain

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru amlwg mewn rôl reoli/arwain, gan gynnwys profiad o reoli ward/uned
  • Yn brofiadol yn gweithio yn rôl mentor/hyfforddwr/asesydd ymarfer/goruchwyliwr
  • Tystiolaeth o gyfraniadau blaenorol at ddatblygu ymarfer clinigol, rheoli newid, a gwella ansawdd
  • Y gallu i ddarparu rheolaeth oruchwyliol
  • Cyfranogi mewn proses recriwtio a dethol
  • Profiad o hyfforddiant gorfodol a statudol
  • Tystiolaeth amlwg o feddu ar wybodaeth dda am Lywodraethu, i gynnwys risgiau, digwyddiadau a chŵynion
  • Yn amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o arwain a rheoli
  • Cymhwyster/Sylfeini Gwella Ansawdd/Sylfeini Gwelliant
  • Wedi cymryd rhan mewn proses recriwtio a dethol
  • Profiad o ymdrin â digwyddiadau clinigol a chŵynion

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leah Andrew
Teitl y swydd
Senior Nurse Neonates
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283300
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cysylltwch â mi drwy e-bost gydag unrhyw ymholiadau am y rôl.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg