Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Newydd-enedigol
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS185-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/10/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cynorthwyol (Uned Gofal Arbennig Babanod)
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol profiadol a thosturiol sydd â brwdfrydedd dros ofal newyddenedigol?
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â'n Huned Gofal Arbennig Babanod sy'n esblygu yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae ein huned yn darparu gofal dwys byrdymor, dibyniaeth fawr, a gofal arbennig, gyda ffocws cryf ar ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu. Mae'r datblygiadau diweddar yn cynnwys Uned Gofal Pontio 4-crud newydd a Gwasanaeth Allgymorth Newyddenedigol sy'n cefnogi teuluoedd yn y gymuned.
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Cynorthwyol brwdfrydig i ymuno â'n tîm cyfeillgar a medrus. Byddwch yn gweithio ar draws cylchdro dydd/nos, gan ddarparu gofal uniongyrchol sy'n cynnwys monitro arwyddion bywyd, samplu gwaed, a chynnal cofnodion cywir (e.e. Cofnod Gofal Nyrsio Cymru). Byddwch hefyd yn cefnogi staff iau a myfyrwyr nyrsio, ac yn cyfrannu at drosglwyddiadau diogel dan oruchwyliaeth.
Bydd arnoch angen sgiliau clinigol a chyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio'n annibynnol ac mewn tîm, a dealltwriaeth gadarn o ddiogelu a llywodraethu gwybodaeth. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.
Os ydych yn barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes gofal newyddenedigol a thyfu mewn tîm cefnogol a blaengar, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Eich Nod yn y Rôl Hon
Darparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i fabanod newyddenedigol, gan gefnogi eu teuluoedd a chyfrannu at ddatblygiad staff iau, gan gynnal y safonau uchaf o ran ymarfer clinigol ac uniondeb proffesiynol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu gofal uniongyrchol i fabanod newyddenedigol, gan gynnwys:
- Monitro a chofnodi arwyddion bywyd
- Samplu gwaed
- Cynnal cofnodion ysgrifenedig ac electronig cywir
- Cefnogi'r broses o drosglwyddo gofal dan oruchwyliaeth staff cymwys, gan sicrhau parhad a diogelwch.
- Hyrwyddo a chynnal cyfrinachedd a chadw at drefniadau llywodraethu gwybodaeth a deddfwriaeth diogelu.
- Gweithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm amlddisgyblaethol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth gan nyrsys cofrestredig
- Cymryd rhan lawn yn y broses o addysgu a chefnogi staff iau a myfyrwyr nyrsio cyn-gofrestru.
- Cyfrannu at gylchdro dydd/nos, gan sicrhau gofal cyson ar draws pob shifft.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/10/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol a gwirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag ystod o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol e.e. Gofal Catheter (gan gynnwys cael gwared a hi); Monitro a chofnodi canlyniadau arsylwi a dehongli hanfodol; Adolygu asesiadau risg; Monitro a dehongli glwcos gwaed; Profiad o gefnogi RN gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Leah Andrew
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager for Neonates
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283300
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector