Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR225-0826
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£50,129 - £57,365 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
14/08/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gwrthgeulo Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a dynamig wneud cais am rôl Nyrs Glinigol Arbenigol a fydd yn gweithio ledled Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Byddwch yn gweithio yn nhîm y Nyrsys Gwrthgeulo Arbenigol, a gyda Meddygon Ymgynghorol a'r Tîm Amlddisgyblaethol. Mae sgiliau cyfathrebu a rheoli amser rhagorol yn hanfodol i gydweithio â chleifion, y cyhoedd a staff proffesiynol ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol, ac i ddarparu a pharhau i ddatblygu gofal o safon uchel i gleifion sy’n cael therapi gwrthgeulo, a hynny gyda’r nod o hybu iechyd ac atal clefydau.

Mae rôl Nyrs Glinigol Arbenigol Gwrthgeulo yn cynnwys y canlynol:

Hyrwyddo gofal cleifion o safon uchel ym mhob agwedd ar y gwasanaeth nyrsio gwrthgeulo.

Derbyn cyfeiriadau newydd ar gyfer triniaethau gwrthgeulo, cynnal cyfweliadau asesu a darparu addysg barhaus i gleifion.

Cynnal clinigau monitro gwrthgeulo, a goruchwylio ymarfer gweithwyr cymorth.

Dehongli canlyniadau a phennu dosau gwrthgeulo, a hynny gan ddefnyddio meddalwedd gwneud penderfyniadau â chymorth cyfrifiadur.

Asesu a dechrau triniaethau ar gyfer cleifion a atgyfeirir gan eu meddyg teulu a'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar Lwybr Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) triniaethau dydd.

Darparu addysg gwrthgeulo/thromboproffylacsis ar ddiwrnodau cynefino meddygon a diwrnodau tiwtoriaeth nyrsys.

Arwain o ran archwiliadau gwrthgeulo, a chynorthwyo gydag archwiliadau thromboproffylacsis.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rheoli’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwrthgeulo dan arweiniad nyrsys yn y Bwrdd Iechyd, a hynny gyda chymorth clinigol yr Hematolegwyr Ymgynghorol.

Derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd ar gyfer cleifion y mae arnynt angen therapi gwrthgeulo, a hynny er mwyn osgoi’r angen iddynt orfod cael eu derbyn i’r ysbyty, a hyrwyddo rhyddhau cynnar.

Darparu gofal dan arweiniad nyrsys sy'n dilyn protocolau cytunedig ar gyfer dechrau a chynnal therapi gwrthgeulo yn achos cleifion allanol â ffibriliad atrïaidd. Defnyddio gwybodaeth arbenigol a sgiliau clinigol mewn clinigau dan arweiniad nyrsys.

Dadansoddi, dehongli a gweithredu ar ganlyniadau, a'u cyfleu mewn modd sensitif i'r claf a ffynhonnell yr atgyfeiriad.

Dadansoddi, cydgysylltu, trefnu a monitro triniaeth ar gyfer cleifion sy'n cael therapi gwrthgeulo, gan ddilyn protocolau cytunedig. Mae hyn yn cynnwys addasu'r dosau yn unol â chanlyniadau profion gwaed, a rheoli triniaethau brys ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o thrombosis/waedu oherwydd rhy ychydig/gormod o wrthgeulo.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 14/08/26.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs gofrestredig – addysg hyd at lefel gradd
  • Cofrestriad byw gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
  • Cymhwyster Addysgu
  • Cwrs sgiliau cwnsela neu brofiad amlwg
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ol-raddedig ar lefel meistr mewn gwrthgeulo
  • Nyrs sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, neu dystiolaeth o fod yn gweithio tuag at hynny
Meini prawf dymunol
  • Gradd Meistr, neu dystiolaeth o fod yn gweithio tuag at hynny
  • Cymhwyster Hematoleg perthnasol arall

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru helaeth, gan gynnwys profiad mewn meddygaeth gyffredinol/nyrsio hematoleg
  • Profiad o arwain tîm clinigol
  • Cymryd rhan mewn rheoli newid
  • Addysgu a chyflwyno
Meini prawf dymunol
  • Gwaith cyhoeddedig
  • Profiad o archebu a dehongli ymchwiliadau/profion
  • Profiad o addysgu disgyblaethau eraill

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Deborah Clark
Teitl y swydd
Anticoagulation Clinical Nurse Specialist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267227023
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sarah Williams 

Uwch Reolwr Nyrs

01267 227688

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg