Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Offthalmoleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC132-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
27/05/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ysgrifennydd Clinigol ym maes Offthalmoleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’r Tîm Offthalmoleg yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.  Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon sy'n meddu ar y cymwysterau addas ar gyfer swydd Ysgrifennydd Clinigol, llawn-amser yn y Tîm Offthalmoleg, a hynny ar drefniant parhaol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gan weithio 37.5 awr yr wythnos, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o safon i'r Meddygon Ymgynghorol a’u timau, a chynorthwyo'r Ysgrifenyddion Meddygol.

Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, sy'n cynnwys cael a dosbarthu post, trawsgrifio sain, a theipio llythyrau ac adroddiadau sensitif iawn, gan gynnal cyfrinachedd bob amser, yn ogystal â gweithredu system cronfa ddata cleifion y Bwrdd Iechyd.  Bydd disgwyl i chi amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich ffordd o weithio. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, gan amlygu doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny’n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Mae profiad o Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â phrawf o'ch sgiliau ysgrifenyddol (yn cynnwys sgiliau clywdeipio) a phrofiad blaenorol o derminoleg feddygol, yn hanfodol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 27/05/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel 3, neu gymhwysedd ar lefel gyfatebol mewn Prosesu Geiriau a Thrawsgrifio Sain
  • Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ysgrifenyddol
  • Gwybodaeth am raglenni meddalwedd, e.e. pecynnau Microsoft, e-bost, y Rhyngrwyd a chronfeydd data
  • 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
  • Prawf o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus priodol
Meini prawf dymunol
  • NVQ Lefel II mewn Gweinyddu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ysgrifenyddol a/neu weinyddol blaenorol
  • Profiad mewn Gwasanaeth Iechyd – yn gyfarwydd â defnyddio termau meddygol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Amgylchiadau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau trefnu da
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Yn awyddus i ddatblygu a symud ymlaen yn y Bwrdd Iechyd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sue Roohi
Teitl y swydd
Medical Secretary Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283273
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg