Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR146-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyfreddinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/06/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Glinigol Arbenigol Canser Macmillan – Y pen a'r gwddf
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r tîm nyrsys clinigol arbenigol canser y Pen a'r Gwddf yn chwilio am unigolyn arloesol a dynamig, sydd â set sgiliau nyrsio briodol, i ymuno â’r tîm sefydledig o nyrsys canser arbenigol, ymgynghorwyr llawfeddygol a gweithwyr cymorth sy’n darparu gofal a chymorth arbenigol. Mae hon yn swydd Macmillan Band 7 barhaol, yn gweithio 15 awr yr wythnos. Byddai'r prif leoliad yn Ysbyty Glangwili, ond byddai disgwyliad i deithio i safleoedd ysbytai eraill yn y Bwrdd Iechyd i gefnogi gwasanaethau a'r broses o ddarparu gwasanaethau. Mae gwasanaeth y Pen a'r Gwddf yn rhan o'r gwasanaeth gofal wedi'i gynllunio, o dan yr adran lawfeddygol.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd hon gan nyrsys sydd â gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â phatholegau'r Pen a'r Gwddf a/neu ganser. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd ag agwedd hyblyg tuag at anghenion y gwasanaeth, sy'n ddynamig, yn hunanysgogol, yn ddibynadwy ac yn gweithio'n dda mewn tîm. Rhaid bod gan y person cywir yr angerdd a'r egni i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn trefnu ac yn rheoli llwyth achosion ar gyfer grŵp diffiniedig o gleifion/ddefnyddwyr gwasanaethau, gan ddarparu cymorth nyrsio, cyngor, addysg a gofal arbenigol i’r grŵp penodol hwnnw.
Byddai deiliad y swydd yn weithiwr allweddol ar gyfer cleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser, a byddai disgwyl iddo ddarparu asesiadau a gofal holistaidd arbenigol i'r grwpiau cleientiaid hynod gymhleth hyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dylech fod yn barod i ddatblygu eich ymarfer academaidd a chlinigol, a meddu ar ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol gan y bydd yn ofynnol i chi chwarae rhan lawn mewn ymarfer clinigol, addysg a gwaith ymchwil/archwilio, ac o ran rhoi canllawiau cenedlaethol ar waith.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 16/06/25
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Cofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd meistr neu brofiad cyfatebol
- Lefel arbenigol o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am wella gwasanaethau
- Y gallu i wneud chwiliad llenyddiaeth a gwerthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o lefel uwch o ddatblygu ymarfer yn eich maes arbenigol.
- Cymhwyster addysgu
- Cymhwyster Rheolaeth
- Sgiliau clinigol uwch
- Cwrs Presgripsiynu Anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol helaeth o weithio ym maes eich arbenigedd.
- Profiad o weithio amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/ardal/adran
- Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn cofrestru
- Profiad o waith Archwilio
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith Ymchwil
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Howarth
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Surgical Specialties
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector