Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatregydd
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (10 sesiwn)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-GGH-460
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£114,099 - £166,585 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/12/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Pediatregydd Ymgynghorol gyda diddordeb mewn Clefydau Anadlol

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Ymgynghorydd

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn falch iawn o gynnig cyfle i Ymgynghorydd Pediatrig, sydd â diddordeb arbenigol mewn clefydau anadlol, ymuno â’n Tîm Pediatrig Acíwt yn Hywel Dda. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle i weithio mewn amgylchedd cefnogol sy’n edrych tuag at y dyfodol, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel i blant mewn lleoliadau cleifion mewnol ac allanol.

Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol meddygaeth anadlol pediatrig yn Hywel Dda. Gyda’ch gilydd, byddwch yn darparu gofal tosturiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion ein poblogaeth leol. Fel rhan o’r rôl, byddwch yn cyfrannu at addysgu a hyfforddi, gan gefnogi myfyrwyr meddygol a staff iau, tra hefyd yn ymgymryd ag archwilio, ymchwil, a datblygu gwasanaethau.

Mae byw a gweithio yn Hywel Dda yn cynnig ffordd unigryw o fyw. Mae’r rhanbarth yn enwog am ei arfordir syfrdanol, parciau cenedlaethol, a chymunedau bywiog, sy’n ei wneud yn lle delfrydol i gydbwyso gyrfa sy’n rhoi boddhad ag ansawdd bywyd eithriadol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Darparu a chydlynu gwasanaethau anadlol pediatrig cynhwysfawr i Blant a Phobl Ifanc, gan gwmpasu pob agwedd ar ofal clinigol, arweinyddiaeth, a chyfrifoldebau rheoli cysylltiedig.
  • Arwain a chefnogi gweithgaredd ymchwil o fewn y gwasanaeth Pediatrig Acíwt, gan sicrhau cyd-fynd â fframwaith Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a llywio darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Datblygu'r gwasanaethau anadlol trwy gydweithio effeithiol â darparwyr gofal iechyd eraill, sefydliadau allanol, ac asiantaethau.
  • Darparu arweinyddiaeth broffesiynol i dimau Pediatrig Acíwt, gan feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhyrchiol.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol a phroffesiynol i gynnal cynhyrchiant a boddhad swydd staff Pediatrig, a all gynnwys cymryd rhan mewn prosesau gwerthuso staff.
  • Cynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n gysylltiedig ag anadlol pediatrig, megis Rhwydweithiau Clinigol Rheoledig, lle bo'n briodol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

I gael holl fanylion gofynion y rôl, gweler y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person sydd ynghlwm.

Cynhelir trafodaethau ynghylch y patrwm gweithio yn ystod y broses cynllunio swyddi gychwynnol, lle gellir trafod ac archwilio dewisiadau, gofynion ac opsiynau yn llawn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod ein cymuned yn cael y gofal gorau posibl. Rydym yn rhoi gwerth ar gynhwysiant ac yn meithrin diwylliant yn y gweithle sy'n croesawu amrywiaeth ac yn cefnogi cyfraniad pob unigolyn at amgylchedd gofal iechyd croesawgar.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymdeithas ac rydym yn ymrwymedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol.

Hywel Dda 3 Sir - https://youtu.be/9wTeZD4cQOw

Ffordd o fyw yng Nghymru –

https://youtu.be/rICFhN-0_nY?si=9pFkL_BkfEiQLzAo

Rhaglen Ddatblygu Arweinyddiaeth Feddygol Hywel Dda  –

https://youtu.be/2fDHk9imTbo?si=OjYD8W41c-YNNVVA

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Cofrestriad llawn a Thrwydded i Ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
  • • Ar Gofrestr Arbenigol y GMC (gan gynnwys trwy Lwybr Portffolio (CESR)/Hawliau'r Gymuned Ewropeaidd) neu bydd disgwyl CCT o fewn chwe mis i ddyddiad y cyfweliad. Rhaid i ymgeiswyr y Llwybr Portffolio fod ar y Gofrestr Arbenigol ar adeg y cais.
  • • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys.
  • • Pan fo diddordeb is-arbenigedd yn ofynnol, dylai hyfforddiant is-arbenigedd fod i lefel sy'n briodol ar gyfer ymarfer ymgynghorol is-arbenigol y DU - cymrodoriaeth neu brofiad lefel gyfatebol.
  • • MRCPCH neu gymhwyster cyfatebol
  • • Hyfforddiant Diogelu Lefel 3 Dilys
  • • Hyfforddiant BLS Dilys
  • • APLS a NLS Dilys
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster(au) Uwch ychwanegol.

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad eang o fewn y maes arbenigedd.
  • • Gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • • Profiad o arwain tîm.
Meini prawf dymunol
  • • Profiad blaenorol o weithio yn y DU neu'r GIG.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • • Y gallu i asesu'n feirniadol gofynion dysgu ar gyfer eich hun ac eraill.
  • • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu pob grŵp staff.
  • • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster addysgu.

Ymchwil ac Ysgolheictod

Meini prawf hanfodol
  • • Arddangos gwybodaeth am ymchwil gyfredol ac arfer gorau yn y maes arbenigedd.
  • • Tystiolaeth o gadw'n gyfredol â'r ymchwil a'r arfer gorau.
  • • Tystiolaeth o leoli a defnyddio canllawiau clinigol yn briodol.
  • • Tystiolaeth o gyfathrebu a dehongli tystiolaeth ymchwil mewn ffordd ystyrlon.
Meini prawf dymunol
  • • Cyfranogiad gweithredol mewn ymchwil.

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • • Dealltwriaeth o rôl Llywodraethu Clinigol.
  • • Cyfranogiad mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol.
  • • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi
Meini prawf dymunol
  • • Gwybodaeth am reoli risg.

Diogelu

Meini prawf hanfodol
  • • Dangos gwybodaeth am ofynion diogelu a chymryd cyfrifoldeb priodol.
  • • Tystiolaeth o gymhwyso deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth briodol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
  • • Gallu gweithio'n annibynnol a bod yn gyfrifol am gamau a gymerwyd.
  • • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
  • • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
  • • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
  • • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Matthew Pickup
Teitl y swydd
Consultant Paediatrician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267283296
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg