Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 4 / Atodiad 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS108-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser) (Atodiad 21)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/09/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Technegol Uwch-gynorthwyydd Fferylliaeth
Gradd 4 / Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae’n bleser gennym hysbysebu am rôl newydd sbon ac arloesol yn cefnogi'r gwaith o optimeiddio meddyginiaethau, wedi’i theilwra ar gyfer Cynorthwywyr Fferylliaeth-Uwch.
Byddwch yn gweithio ar y wardiau, mewn cydweithrediad agos â'r tîm fferylliaeth glinigol, yn gofalu am eich cleifion ac yn rheoli meddyginiaethau yn unol â'r hyfforddiant a ddarperir.
Byddwch hefyd yn rhan annatod o dîm amlsgiliau y Ddosbarthfa, yn cynnal Gwiriadau Terfynol o Gywirdeb, ac unwaith eto, darperir hyfforddiant priodol.
Mae hon yn rôl newydd i Uwch-gynorthwywyr Fferylliaeth yn Fferyllfa Glangwili, ac os ydych yn unigolyn uchelgeisiol, blaengar a rhagweithiol, sy'n ymrwymedig i fod yn rhan o dîm Fferylliaeth amrywiol lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd, yna dyma'r swydd i chi.
Mae hon yn swydd barhaol a llawn-amser am 37.5 awr yr wythnos. Disgwylir i ymgeiswyr hefyd gymryd rhan mewn rota waith ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc, ynghyd â rota aros yn hwyr.
Rôl Band 4/Atodiad 21 yw hon. Gweler isod i gael mwy o fanylion, a chofiwch gysylltu os hoffech wybod rhagor am y rôl gyffrous hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd â dyletswyddau fferyllol cyffredinol dan oruchwyliaeth rheolwr llinell neu ddirprwy, gan gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Fferylliaeth diogel ac effeithiol yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a gofynion cyfreithiol cyfredol.
Byddwch yn rhan annatod o dîm amlsgiliau y Ddosbarthfa, lle mae'r dyletswyddau'n cynnwys dosbarthu amrywiaeth o fathau o bresgripsiynau, a chynnal Gwiriadau Terfynol o Gywirdeb, ar ôl i'r Fferyllydd wneud gwiriad clinigol. Bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu.
Gweithio ym maes gwasanaethau cleifion ac ar y wardiau yn cyflawni dyletswyddau optimeiddio meddyginiaethau a rhyddhau cleifion. Bydd hyn yn cynnwys asesu meddyginiaethau'r cleifion eu hunain gan sicrhau eu bod yn addas i'w defnyddio yn yr ysbyty, darparu proses ddosbarthu un stop i wardiau i baratoi ar gyfer rhyddhau cleifion, a chynnal ac archebu meddyginiaethau nad ydynt yn stoc ar gyfer cleifion. Unwaith eto, darperir hyfforddiant priodol.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu rôl yr Uwch-gynorthwyydd Fferylliaeth, lle byddwch yn cael eich annog a’ch cefnogi i'ch datblygu eich hun.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar Fand 4 ac yn ddelfrydol rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon fod wedi cyflawni Rhaglen Hyfforddi Rheoli Meddyginiaethau AaGIC ar gyfer Staff Cymorth Fferylliaeth a Gwirio Cywirdeb ar gyfer Cynorthwywyr Fferylliaeth neu gymwysterau cyfatebol. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar y cyflawniad ar gyfer y rôl Band 4 hon i wneud cais, ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol iddynt gyflawni'r cymhwyster 2 flynedd a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.
Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 4, a'r ail flwyddyn yn 75%), yna bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 4 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 4. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 03/09/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol mewn gwasanaethau fferyllol
- Gwybodaeth am weithdrefnau technegol fferyllol hyd at lefel gyfatebol i NVQ Lefel 3, h.y. Buttercups Lefel 2 neu gwrs fferylliaeth cyfatebol mewn maes ymarfer perthnasol, YNGHYD A Chymhwysedd Gwirio Cyn ac yn Ystod y Broses (yn dibynnu ar y maes gwaith) NEU Gymhwyster Cynorthwyydd Gwirio Fferyllol Achrededig Buttercups Lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol (yn dibynnu ar y maes gwaith) NEU Gymhwyster CIPS Lefel 2, YNGHYD A phrofiad o weithdrefnau a phrosesau caffael ac anfonebu, a gwybodaeth eang amdanynt (yn dibynnu ar y maes gwaith)
- Achrediad Rheoli Meddyginiaethau AaGIC ar gyfer Staff Cymorth Fferylliaeth
- Gwybodaeth am reoliadau sy'n ymwneud a pharatoi aseptig a materion cyfoes (yn dibynnu ar y maes gwaith)
- Gwybodaeth am arferion gweithgynhyrchu, cyflenwi a dosbarthu da
Meini prawf dymunol
- TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol
- Dosbarthu Aseptig a Pharatoi Meddyginiaethau, unedau NVQ 3 perthnasol Leeds
- HNC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Gwyddor Bwyd a Thechnoleg
- Gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan y tim rheoli meddyginiaethau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o ddosbarthu a pharatoi aseptig mewn fferyllfa ysbyty
- Profiad sylweddol o gyflenwi a dosbarthu meddyginiaethau mewn fferyllfa gymunedol neu fferyllfa ysbyty
- Gwybodaeth sylfaenol am swyddogaethau'r GIG
- Gwybodaeth dda am y gofynion cyfreithiol ar gyfer dosbarthu a chyflenwi meddyginiaethau, gan gynnwys cyffuriau rheoledig
- Yn ymwybodol o Iechyd, Diogelwch a Llesiant a'u goblygiadau i staff
- Dealltwriaeth dda o brosesau rheoli stoc
- Profiad sylweddol o broses caffael fferyllol a dealltwriaeth ariannol o gyllidebau cyffuriau
- Profiad sylweddol gyda systemau TG perthnasol a systemau robotig fferyllol
- Profiad o weithio ar ward
- Wedi defnyddio systemau rheoli stoc.
- Profiad o wiriadau yn ystod y broses yn achos paratoi aseptig
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn tim ac yn annibynnol
- Profiad o ddarparu cynhyrchion a baratowyd yn aseptig
- Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
Meini prawf dymunol
- Wedi cymryd rhan yn y gwaith o ysgrifennu gweithdrefnau
- Gallu amlwg i fodloni terfynau amser ac i weithio i dargedau
- Profiad o arwain tim
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sally Davey
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227466
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran, cysylltwch â Sally Davey neu Anja Roberts Technegydd Fferyllol Arweiniol y Ddosbarthfa on 01267 227466
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector