Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS122-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/09/2025
Teitl cyflogwr

Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol Fferylliaeth yn nosbarthfa ein Hadran Fferylliaeth gyfeillgar a blaengar yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Byddwch yn aelod hynod werthfawr o dîm y ddosbarthfa, bydd eich dyletswyddau yn cynnwys:
- cyflenwi stoc i wardiau a adrannau
- dosbarthu meddyginiaethau ar gyfer cleifion mewnol ac allanol
- cefnogi’r cyd-drefniad o ryddhau cleifion
- cefnogi tîm rheoli meddyginiaethau’r fferyllfa ar lefel y ward
Byddwch yn gweithio'n arbennig o dda mewn tîm, yn dangos proffesiynoldeb bob amser, ac yn ymroddedig i'ch datblygiad chi a datblygiad y gwasanaethau a ddarparwn i gleifion.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu rôl yr Uwch-swyddogion Technegol Cynorthwyol Fferylliaeth yn yr Adran Fferylliaeth, ac rydym yn cynyddu eu cysylltiad â'r broses o gyflenwi gwasanaethau.
Mae'r Tîm Fferylliaeth yn dîm blaengar, ac mae'n ymdrechu'n barhaus i wella'r modd y darperir gofal fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf ac i wneud y defnydd gorau o feddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm o Uwch-swyddogion Technegol, Technegwyr Fferyllol a Fferyllwyr i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Fferyllol yn yr ysbyty. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch a chymhwyster NVQ Lefel 3 neu brofiad cyfwerth mewn gwasanaethau Fferylliaeth.
Cyflawni amrywiaeth o dasgau i gefnogi'r timau fferylliaeth yn y Bwrdd Iechyd. Gall y rôl olygu gweithio yn y meysydd a ganlyn: Dosbarthu, Caffael, y Ddosbarthfa, Gwasanaethau ar y Wardiau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota penwythnosau a gwyliau Banc.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 24/09/2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
- fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon dda mewn addysg uwchradd, sydd i gynnwys 5 TGAU ar lefel C, neu gyfwerth
- Cymhwyster lefel 3 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- 5 TGAU ar lefel C neu uwch, sydd i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
- Buttercups/ Cymhwyster NVQ 2 mewn Fferylliaeth
- Gwybodaeth am enwau cyffuriau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ysbyty neu fferyllfa manwerthu yn y gymuned
- Profiad o ofal cwsmeriaid
- Profiad o gynnal a chadw stoc
- Y gallu i weithio mewn tim
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sally Davey
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227469
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anja Roberts - Uwch-dechnegydd Fferylliaeth Gwasanaethau'r Ddosbarthfa
01267 227466
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector