Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener 08:45 i 17:00; gweithio ar benwythnosau, yn hwyr ac ar wyliau banc yn ôl trefn rota, gydag ymrwymiad i fod ar alwad)
Cyfeirnod y swydd
100-PST031-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol Arbenigol – Adran Frys / Penderfyniadau Clinigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn falch o gynnig swydd Fferyllydd Band 7 yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, i weithio ledled ein Huned Penderfyniadau Clinigol (CDU) a'n Hadran Frys yn barhaol. Mae hon yn swydd effaith uchel ar gyfer rhywun sy'n meddu ar sgiliau clinigol cadarn, sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac ymagwedd ragweithiol at ofal cleifion mewn amgylchedd sy'n symud yn gyflym.

Byddwch yn darparu gwasanaeth fferylliaeth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf, i'r Uned Penderfyniadau Clinigol a'r Adran Frys, a hynny trwy gynnal trefniadau cysoni meddyginiaethau cynhwysfawr, darparu cyngor arbenigol ar y defnydd diogel, effeithiol a phriodol o feddyginiaethau, asesu presgripsiynau o ran eu priodoldeb clinigol a chefnogi presgripsiynwyr i wneud penderfyniadau cymhleth, cyflenwi meddyginiaeth mewn modd amserol, a chynghori cleifion ynghylch eu meddyginiaethau. Bydd disgwyl i chi gymryd rhan weithredol yn rowndiau'r bwrdd a'r ward i hybu arferion presgripsiynu diogel a  hwyluso'r broses o ryddhau cleifion.

Byddwch yn cefnogi'r Fferyllydd Arweiniol ar gyfer Derbyniadau trwy gyfrannu at y gwaith o lunio a gweithredu canllawiau a phrotocolau, a chymryd rhan mewn archwiliad clinigol, adolygiadau o ddigwyddiadau a phrosiect gwella ansawdd i wella gofal cleifion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rhan o dîm fferylliaeth dynamig a blaengar, byddwch yn gwneud y canlynol:

  •   Darparu cymorth fferyllol clinigol arbenigol i'r Uned Penderfyniadau Clinigol a'r Adran Frys
  • Gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau
  • Cefnogi stiwardiaeth gwrthficrobaidd a mentrau optimeiddio meddyginiaethau
  • Cyfrannu at brosiectau i ddatblygu'r gwasanaeth a gwella ansawdd
  • Darparu addysg a hyfforddiant trwy oruchwylio a mentora fferyllwyr iau, technegwyr 
    fferyllol, myfyrwyr fferylliaeth, yn ogystal â staff wardiau clinigo

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 07/09/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth broffesiynol am brosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
  • Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor cyn-gofrestru achrededig
  • Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
  • Presgripsiynydd Annibynnol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad hynod ddatblygedig ym maes gofal iechyd
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lowri Jones
Teitl y swydd
Lead Pharmacist for Admissions
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227466
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg