Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 6
Contract
24 mis (Cyfnod penodol / Secondiad tan 29/02/2028)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Cymryd rhan mewn rotas ar alwad, ar y penwythnos, ac yn ystod gwyliau banc
Cyfeirnod y swydd
100-PST051-1225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/01/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 29/02/2028.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Mae cyfle cyffrous ar gael i fferyllydd newydd gymhwyso neu fferyllydd sy'n dymuno newid sector ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Byddwn yn eich cefnogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.

Byddwch yn cael cyfle i weithio ar draws amrywiaeth o wardiau meddygol cyffredinol a llawfeddygol, ac i fod yn aelod allweddol o'r tîm amlddisgyblaethol, gan gyfrannu at ddefnydd diogel, effeithiol, seiliedig ar dystiolaeth o feddyginiaethau i wella canlyniadau cleifion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rhan o dîm fferylliaeth dynamig a blaengar, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Darparu cymorth fferylliaeth glinigol
  • Cwnsela cleifion i sicrhau eu bod yn deall y driniaeth gystal â phosibl ac yn cadw ati gymaint â phosibl
  • Gweithio'n agos gyda thimau amlddisgyblaethol i sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau
  • Cymryd rhan weithredol yn rowndiau'r bwrdd a'r ward i hybu arferion presgripsiynu diogel a hwyluso'r broses o ryddhau cleifion
  • Cefnogi stiwardiaeth gwrthficrobaidd a mentrau optimeiddio meddyginiaethau
  • Cyfrannu at brosiectau i ddatblygu'r gwasanaeth a gwella ansawdd
  • Darparu addysg a hyfforddiant trwy oruchwylio a mentora fferyllwyr iau, technegwyr fferyllol, myfyrwyr fferylliaeth, yn ogystal â staff wardiau clinigol

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/01/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd neu gyfwerth)
  • Aelod o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (fferyllydd cofrestredig neu hyfforddai fferylliaeth cyngofrestru yn ystod y broses ymgeisio; rhaid bod yn fferyllydd cofrestredig ar y dyddiad dechrau)
  • Cymhwyster mewn Saesneg Iaith – TGAU gradd C neu uwch neu sgor IELTS o 6.5 mewn ysgrifennu a 6.0 yn yr holl gydrannau eraill
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am ofal iechyd mewn fferyllfa, a phrofiad ohono
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau
  • Profiad o weithio mewn ysbyty
  • Gwasanaethau Technegol
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr cyn-gofrestru, technegwyr a chynorthwywyr
  • Profiad ym maes gofal sylfaenol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg Lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carys Dyer
Teitl y swydd
Lead Pharmacist Clinical Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227466
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg