Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
30 awr yr wythnos (Gweithio ar benwythnosau, yn hwyr ac ar wyliau banc, ac ymrwymiad ar alwad yn ôl trefn rota)
Cyfeirnod y swydd
100-PST028-0526-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/08/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/08/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch Fferyllydd - Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n fferyllydd brwd, blaengar sy’n barod i gael effaith wirioneddol mewn gofal iechyd meddwl? Ymunwch â’n Tîm Fferylliaeth Iechyd Meddwl dynamig a chefnogol yn BIP Hywel Dda. Byddwch yn gweithio wrth wraidd timau amlddisgyblaethol i barhau a gwella’r gwasanaeth rheoli meddyginiaethau ar gyfer ein cleifion ac yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Gofal Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu i gefnogi gofal cyson o safon ar draws y system.

Un o’r nodweddion nodedig ar ein gwasanaeth yw ein fferyllfa Iechyd Meddwl arbenigol bwrpasol, sy’n darparu gwasanaeth fferylliaeth o safon i’n wardiau iechyd meddwl, gan gynnwys:

  • Wardiau Acíwt Oedolion
  • Wardiau Oedolion Hŷn
  • Uned Diogelwch Isel
  • Uned Gofal Dwys Seiciatr

Byddwch yn bresenoldeb proffesiynol uwch yn y fferyllfa Iechyd Meddwl arbenigol, gan oruchwylio gweithgarwch o ddydd i ddydd a sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithredu’n ddiogel, yn effeithlon ac yn ddiffwdan.

Mae’r model integredig hwn yn rhoi cyfle i chi weithio’n agos gyda thimau dosbarthfa, ward, a chlinigol i sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio mewn modd diogel, effeithiol ac arloesol.

Byddai hwn yn gyfle gwych i fferyllydd cofrestredig fagu profiad pellach mewn ystod o feysydd yn ogystal â helpu i ddatblygu ei yrfa.

Ymunwch â ni i helpu i lunio a chyflawni dyfodol fferylliaeth iechyd meddwl yn Hywel Dda.

Mae’r swydd hon yn cwmpasu’r holl Fwrdd Iechyd ond mae wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A chithau’n Uwch-fferyllydd, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Bod yn gyfrifol am reoli a chefnogi gweithrediadau fferyllfa, gan weithio’n agos gyda thechnegwyr fferyllfa a staff cymorth
    Darparu mewnbwn fferyllol clinigol arbenigol ar draws gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol
    Arwain a rheoli cyflenwad diogel ac effeithiol o clozapine ar draws Grŵp Gofal Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gan sicrhau y cydymffurfir â gofynion monitro a chefnogi parhad gofal
  • Arwain mentrau optimeiddio meddyginiaethau, diogelwch a llywodraethu
  • Cydweithio mewn timau amlddisgyblaethol i ddylanwadu ar bresgripsiynu a gwella gofal cleifion
  • Cefnogi a datblygu staff a hyfforddeion fferylliaeth 
  • Cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth, archwiliadau, a rhaglenni gwella ansawdd
  • Helpu i lunio a gwella rôl gwasanaeth y fferyllfa Iechyd Meddwl arbenigo

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg yn gyfartal.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 17/08/2026.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn fferylliaeth
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • MSc neu Ddiploma ôl-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Goruchwylydd achrededig ar gyfer fferyllwyr sylfaen neu ôl-sylfaen
  • sylfaen Presgripsiynydd Annibynnol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rôl yn cynnwys gwaith aseptig
  • Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â gofal iechyd
  • Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant ar lefel diploma a phrofiad
Meini prawf dymunol
  • Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes
  • Profiad o ymchwil mewn ymarfer
  • Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau

Ieithoedd Gofynion

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd âgwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gwenllian Hughes
Teitl y swydd
Lead Mental Health Pharmacist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227469
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Emma Davies 

Prif FFeryllydd ar gyfer Meddygaeth

[email protected]

01267 227466

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg