Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST109-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/09/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Fferyllydd Clinigol Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fferyllydd clinigol arloesol ac ysbrydoledig ymuno â’n Tîm Fferylliaeth Iechyd Meddwl yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Ydych chi’n fferyllydd brwd, blaengar sy’n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes gofal iechyd meddwl? Ymunwch â’n Tîm Fferylliaeth Iechyd Meddwl cyfeillgar, arloesol a chefnogol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Rydym yn chwilio am fferyllydd brwdfrydig, llawn cymhelliant i ddod yn rhan o’n gwasanaeth sy’n ehangu. Mae’r rôl hon yn gyfle gwych i fagu profiad ar draws ystod eang o arbenigeddau iechyd meddwl, gan gynnwys wardiau acíwt i oedolion, wardiau oedolion hŷn, uned gofal dwys seiciatrig, ac uned diogelwch isel.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i weithio’n agos gyda Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol, gan gydweithio â thimau amlddisgyblaethol i gefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar y claf ar draws amrywiaeth o leoliadau.
Nid yw’n hanfodol meddu ar brofiad iechyd meddwl blaenorol, ac mae croeso i bob ymgeisydd wneud cais. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau arbenigol, gan gynnwys y cyfle i gwblhau Tystysgrif Therapiwteg Seiciatrig Prifysgol Aston a gydnabyddir yn genedlaethol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r swydd yn Ysbyty Glangwili, er bod gwasanaethau fferylliaeth yn cael eu darparu ar draws y Bwrdd Iechyd. Yn hynny o beth, bydd angen rhywfaint o deithio rhwng safleoedd i gefnogi gwasanaethau ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Rydym yn cynnig hyblygrwydd ynghylch yr ardaloedd y byddwch chi’n eu cwmpasu.
Os ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau clinigol, gweithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymroddedig, a chyfrannu at wella bywydau pobl sy’n profi salwch meddwl, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Bydd deiliaid y swyddi’n cyfrannu at y broses o gynllunio a chyflawni’r strategaeth optimeiddio meddyginiaethau.
Anogwn ddarpar ymgeiswyr i gysylltu â ni i drafod y swydd hon ymhellach.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 05.10.2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
- Fferyllydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
- Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
- Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
- Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
Meini prawf dymunol
- Tiwtor cyn gofrestru achrededig
- Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
- Presgripsiynydd Annibynnol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yr hyblygrwydd i ymgymryd a dyletswydd frys, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc ac agor gyda'r nos
- Yn meddu ar ymagwedd hyblyg
- Teithio rhwng safleoedd a'r tu allan i'r sefydliad
- Yn deall ac yn amlygu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth a phrofiad datblygedig iawn o ofal iechyd
- Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Meini prawf dymunol
- Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau arbenigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gwenllian Hughes
- Teitl y swydd
- Lead Mental Health Pharmacist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227367
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector





