Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fflebotomi
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol: Oriau gwaith 8am - 11am o Dydd Llun i Dydd Gwener
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (1 x 15 awr o swyddi, 8am i 11am o Dydd Llun i Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS227-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,833 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Phlebotomydd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i lenwi swydd ran-amser barhaol yn y tîm Fflebotomi yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.

Mae'n swydd Fflebotomi ran-amser Band 2 am 15 awr yr wythnos, gan weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00am i 11.00am

Bydd hyblygrwydd o amgylch yr amseroedd hyn yn ofynnol ar adegau, ac mae yna ofyniad ychwanegol i gymryd rhan yn y rota dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (bydd y shifftiau hyn yn ychwanegol at yr oriau dan gontract, a bydd yna gydnabyddiaeth ariannol ychwanegol ar gyfer staff ar y rota hon).

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili a bydd yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Fflebotomi effeithlon, gofalgar a hwylus, lle bydd yn gweithio fel rhan o dîm i ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau sy'n briodol i'r adran, ond bydd yn ymwneud yn bennaf â thynnu samplau gwaed i'w dadansoddi o'r Wardiau, yr Adran Cleifion Allanol a'r Clinigau Allgymorth.

Bydd hyfforddiant mewnol llawn yn cael ei ddarparu ar ôl dechrau, a hynny o dan gyfarwyddyd Arweinydd y Tîm Fflebotomi.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/11/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.  Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhifedd ac iaith sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif hyfforddiant fflebotom
  • Tystysgrif Samplu Cyn Trallwysiad
  • NVQ lefel 2 neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o fflebotomi
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd clinigol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Monica Davies
Teitl y swydd
Phlebotomy Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227846
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Hywel Morgan (Rheolwr Adran Haemtoleg)

01267 227458 est. 2458

[email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg