Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Hyblygrwydd yn dibynnu ar angen y gwasanaeth)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS054-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/05/2025
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn bwriadu recriwtio unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n tîm Trawma ac Orthopedig yn Sir Gaerfyrddin er mwyn cefnogi ein gwasanaethau Aciwt.
Bydd y swydd yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â Ffisiotherapyddion ac ymgymryd â thasgau dirprwyedig i ddarparu rhaglenni adsefydlu gyda chleifion, ynghyd â chydweithredu â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd. Rydym yn wasanaeth sy'n esblygu, ac rydym yn bwriadu recriwtio pobl sy'n rhannu ein gwerthoedd craidd yn BIPHDd ac sy'n meddu ar ddiddordeb a sgiliau ym maes adsefydlu.
Mae ein timau yn gadarnhaol, yn flaengar ac yn ddynamig. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sydd â'r gallu i ysgogi ei gleifion ac ymgysylltu â nhw.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau adsefydlu yng ngwasanaeth ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y gwasanaeth ffisiotherapi sy'n ymgymryd â rhaglenni asesu a thrin. Bydd yn gweithio gyda'r tîm, ac ar ei ben ei hun dan arweiniad a chyfarwyddyd y staff cymwysedig. Bydd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau clinigol a thasgau gweinyddol penodol, gan ddarparu gwasanaeth effeithlon, gofalgar sy'n canolbwyntio ar y claf.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu dull hyblyg o gyflawni gwasanaeth saith niwrnod sy'n seiliedig ar angen.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 22/05/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu lefel gyfatebol
- NVQ 3 a/neu ddysgu lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Tystiolaeth o addysg gyffredinol ac iddi sylfaen eang a/neu brofiadau bywyd
- Sgiliau TG
- Profiad ymarferol a gwybodaeth a gafwyd trwy hyfforddiant mewnol, cyrsiau byr
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol, gyda thystiolaeth o 60 credyd o ddysgu ar lefel 3
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o wasanaeth ffisiotherapi neu wasanaeth mewn maes gofal iechyd cysylltiedig
- Sgiliau cyfrifiadur/bysellfwrdd
- Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol neu berthynol i ofal iechyd ychwanegol
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynwen Williams
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227808
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector