Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Gweithio dros 3 diwrnod - dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP041-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 Y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/06/2025
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Arbenigol
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm Adsefydlu Ysgyfeintiol sy’n datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r tîm Adsefydlu Ysgyfeiniol yn rhan o'r gwasanaeth Adsefydlu Aml-fodel. Mae hon yn rôl ran-amser am 22.5 awr yr wythnos (dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau). Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar draws Bwrdd Iechyd y Brifysgol, sy'n cynnwys y tair sir, sef Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Byddai deiliad y swydd wedi'i leoli yn ysbyty Glangwili, ond mae'n bosibl y
byddai disgwyl iddo ddarparu'r gwasanaeth ar draws Hywel Dda.
Mae adsefydlu ysgyfeiniol yn cynnwys ymarfer corff mewn dosbarthiadau mewn lleoliadau cymunedol, addysg, asesiadau ac ymweliadau â chartrefi. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, ac yn ceisio datblygu cysylltiadau â darparwyr gweithgareddau yn y trydydd sector er mwyn cynnig rhagor o gymorth i’n defnyddwyr gwasanaethau ar ôl eu cwrs adsefydlu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm therapi adsefydlu cyfeillgar, rhagweithiol, a bydd yn gweithio ar y cyd yn ein tîm amlddisgyblaethol yn y gymuned. Mae'r gwasanaeth arloesol hwn yn hybu twf ar gyfer staff a'r gwasanaethau a ddarperir.
Bydd disgwyl i chi weithio fel rhan annatod o’r tîm Adsefydlu Ysgyfeintiol, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, i bobl ledled Hywel Dda.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm presennol o ffisiotherapyddion sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau adsefydlu cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o fewn eu maes clinigol arbenigol diffiniedig. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd â thimau rhyngddisgyblaethol ac
amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ei lwyth achosion ei hun a fydd yn cynnwys hunanatgyfeiriadau yn ogystal â rhai gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol a meddygon ymgynghorol. Bydd yn weithiwr proffesiynol annibynnol sy'n meddu ar lefel uchel o sgiliau ac arbenigedd clinigol a thechnegol, ac sy'n defnyddio sylfaen dystiolaeth i gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r broses o reoli cleientiaid.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y broses datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys addysgu/goruchwylio staff iau a myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r broses o foderneiddio a datblygu'r gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan ym mhrosesau archwilio a gwerthuso y gwasanaeth.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg yr un mor ymgeisio.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 09/06/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ôl-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
- Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tîm amlddisgyblaethol
- Profiad o weithio i'r GIG
- Profiad o ddatblygu gwasanaeth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lisa Butler
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Tracey Eldred ( Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol )
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector