Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS097-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/08/2025
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi (Cymunedol)
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfle newydd, cyffrous ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi llawn cymhelliant, brwdfrydedd ac angerdd yn Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd ac ysgogiad i gefnogi ymyrraeth therapi cymunedol. Byddwch yn dod yn rhan o'n Tîm Ffisiotherapi Cymunedol prysur a chyfeillgar yn Ardal Sir Gaerfyrddin, gan ddarparu adsefydlu i oedolion yn yr amgylchedd cymunedol a'u helpu i weithio tuag at annibyniaeth weithredol
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gennych brofiad o ddefnyddio technegau codi a chario medrus iawn i hwyluso symud cleifion a/neu adsefydlu. Byddwch yn gweithio gydag eraill yn y tîm i drin cleifion, ac yn dilyn cynlluniau triniaeth yn annibynnol.
Byddwch yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys cartrefi'r bobl eu hunain, gofodau adsefydlu ac ysbytai cymunedol.
Rydym yn chwilio am unigolyn gofalgar a chyfeillgar sydd â'r gallu i gyd-dynnu â phobl mewn ffordd aeddfed a chadarnhaol.
Bydd angen i chi allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/08/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol
- NVQ 3 neu ddysgu lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Tystiolaeth o sylfaen eang o addysg gyffredinol a/neu brofiadau bywyd
- Sgiliau TG
- Profiad a gwybodaeth ymarferol a ddatblygwyd trwy gyrsiau byr hyfforddiant mewnol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i ymarfer clinigol ac sy'n amlygu tystiolaeth o 60 credyd ar ddysgu lefel 3
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o wasanaeth ffisiotherapi neu mewn maes gofal iechyd cysylltiedig
- Parodrwydd i ymgymryd a hyfforddiant perthnasol
- Sgiliau cyfrifiadur/bysellfwrdd
- Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dim
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol ychwanegol neu cysylltiedig a gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- John Walpole
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227806
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector