Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Podiatreg
- Gradd
- Gradd 8b
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP052-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Dydd Priory, Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £67,583 - £78,530 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/07/2026
Teitl cyflogwr
Dirprwy Bennaeth Podiatreg/Rheolwr Orthoteg
Gradd 8b
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Bodiatrydd/Orthotegydd profiadol, brwdfrydig sydd â hanes sicr o arloesi i gyflawni rôl Dirprwy Bennaeth Podiatreg/Rheolwr Orthoteg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad clinigol sylweddol yn y gwasanaeth Podiatreg, yn ogystal â phrofiad diweddar amlwg o ymarfer uwch mewn gwaith clinigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol i staff yn yr adran gan sicrhau bod yr holl wasanaethau’n cael eu darparu i safonau cenedlaethol a Gofal Iechyd cydnabyddedig.
- Cynorthwyo Pennaeth y Gwasanaeth i fynd ati’n strategol i ddatblygu, moderneiddio ac arloesi’r gwasanaeth ac arwain y gwaith o’i weithredu mewn amrywiaeth o leoliadau, gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol.
- Dirprwyo ar gyfer Pennaeth y Gwasanaeth ar lefel weithredol a strategol yn y Bwrdd Iechyd agyda phartneriaid lleol yn ôl y gofyn.
- Gweithio gyda Phennaeth y Gwasanaeth ac arweinwyr gwasanaethau eraill i sicrhau bod yr holl bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau ariannol ar gyfer y gwasanaeth yn unol â safonau cenedlaethol ac yn cael eu gweithredu’n deg ar draws y gwasanaeth.
- Rheoli llwyth achosion clinigol o gleientiaid ag anghenion cymhleth ar lefel glinigol uwch gan ddefnyddio ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
- Arwain yr agenda llywodraethu clinigol yn yr adran gan hyrwyddo ymarfer sy’n glinigol effeithiol a glynu at safonau proffesiynol/safonau Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/07/2026.
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Gradd Meistr Podiatreg cydnabyddedig (clinigol/rheoli) neu wybodaeth, sgiliau a phrofiad cyfatebol
- Aelod cofrestredig o Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac Aelod cofrestredig o'r Coleg Brenhinol Podiatreg a gwybodaeth am safonau proffesiynol a chodau ymddygiad a’r modd i’w rhoi ar waith
- Wedi cwblhau cymhwyster Rheoli neu dystiolaeth gyfatebol o ddatblygu rheolaeth, e.e. arwain/hyfforddi/mentora
- Tystiolaeth fanwl o wybodaeth arbenigol iawn mewn maes clinigol penodol o Ymarfer Clinigol Uwch Podiatreg
- Dealltwriaeth o brosesau ariannol
- Gwybodaeth a thystiolaeth o ddatblygu gwasanaethau, polisi, cynllunio a gweithredu polisïau gwasanaeth cenedlaethol a lleol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol sylweddol mewn gwasanaeth Podiatreg gan gynnwys profiad o fod yn arweinydd tîm/arweinydd clinigol/rheolwr
- Profiad o ddatblygu strategaethau llywodraethu clinigol ar gyfer tîm/gwasanaeth cyfan
- Profiad cyfredol amlwg o ymarfer uwch mewn gwaith clinigol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o brofiad ymchwil neu waith cyhoeddedig
- Profiad o ddatblygu’r gweithlu a chymysgedd sgiliau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled ardal y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol
- Yn amlygu dealltwriaeth o’i gwmpas ymarfer ei hun
- Yn gallu gosod blaenoriaethau a bodloni terfynau amser dyddiol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mike Mulroy
- Teitl y swydd
- Head of Podiatry/Orthotics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811348077
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





