Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicolegydd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST014-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tîm Cymunedol ar gyfer Anableddau Dysgu, Tŷ Llanion, Parc Llanion
- Tref
- Doc Penfro
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 03/07/2025
Teitl cyflogwr

Seicolegydd Clinigol - Anableddau Dysgu
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym ddatblygiad cyffrous yng Ngorllewin Cymru. Rydym yn chwilio am Seicolegydd Clinigol sy'n teimlo'n angerddol dros weithio gyda phobl ag anableddau dysgu, ac sy'n frwdfrydig ac yn greadigol yn ei waith.
Mae arnom angen Seicolegydd sy'n credu mewn gweithio ochr yn ochr ag unigolion a'u rhwydweithiau i gryfhau hunaniaethau a gwerthoedd dewisol yr unigolion er mwyn galluogi posibiliadau newydd.
Byddwch yn gallu darparu asesiadau arbenigol i unigolion ag anableddau dysgu a'u teuluoedd neu ofalwyr. Byddwch yn gallu llunio a chynllunio ymyriadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, ynghyd â'r rhwydwaith o'u hamgylch. Bydd gennych sgiliau o ran gweithio gydag ystod eang o faterion iechyd meddwl pobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'r systemau o'u cwmpas.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynnal asesiadau seicolegol seiliedig ar brotocol ar gyfer cleifion, gan ddefnyddio profion seicolegol a seicometrig, mesurau hunanadrodd, graddfeydd sgorio, arsylwadau strwythuredig uniongyrchol ac anuniongyrchol, a chyfweliadau lled-strwythuredig â chleientiaid, aelodau o'r teulu, ac unigolion eraill sy'n ymwneud â gofal y claf.
Cynorthwyo i lunio a darparu cynlluniau gofal sy'n cynnwys triniaeth seicolegol a/neu reoli problemau cleientiaid, a hynny mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau cleifion mewnol a lleoliadau preswyl.
Cynorthwyo gyda chydlynu a rhedeg grwpiau therapiwtig.
Gweithio gyda staff eraill i asesu cleientiaid mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau preswyl a lleoliadau cleifion mewnol, ac adolygu eu gofal er mwyn paratoi ar gyfer adolygiadau amlddisgyblaethol.
Cynorthwyo i ddatblygu fframwaith dealltwriaeth a gofal ac iddo sail seicolegol, a hynny er budd holl gleientiaid y gwasanaethau ym mhob lleoliad lle y mae gofal ar waith.
Mynychu cyfarfodydd amlddisgyblaethol priodol a chyfrannu atynt.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd yn gofyn am radd anrhydedd dda mewn seicoleg i gefnogi a gwella gofal seicolegol proffesiynol cleientiaid yn y gwasanaeth, gan ddarparu asesiadau seicolegol ac ymyriadau seicolegol, a gweithio'n annibynnol yn ôl cynllun ac o fewn fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau'r tîm.
Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol clinigol-berthynol, cynnal archwiliadau, casglu ystadegau, datblygu prosiectau archwilio a/neu brosiectau eraill ac addysgu.
Yn gyffredin â phob seicolegydd clinigol, cael goruchwyliaeth glinigol reolaidd yn unol â chanllawiau ymarfer proffesiynol.
Cynorthwyo i ddylunio a gweithredu prosiectau datblygu gwasanaethau o fewn y gwasanaeth yn ôl yr angen.
Defnyddio sgiliau ymchwil gradd i gynorthwyo ac arwain y gwaith o ddatblygu a moderneiddio gwasanaethau.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/07/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- SeicolegyddYmarferydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg glinigol, gan gynnwys seicopatholeg, dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
- Gwybodaeth ymarferol dda am Seicometreg ac asesiadau gwybyddol, ac yn gallu eu defnyddio, ynghyd â gwybodaeth am eu cyfyngiadau a sut i'w gweinyddu
- Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â chymhwyso seicoleg ledled yr hyd oes datblygiadol, ynghyd â phrofiad o weithio mewn arbenigeddau craidd o ran iechyd meddwl oedolion, plant a'r glasoed, oedolion hŷn ac anableddau dysgu, ac yn amlygu gwybodaeth am wybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a modelau a dulliau eraill
- Gwybodaeth am fodelau seicoleg, yn cynnwys gwybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a dulliau systemig
- Gwybodaeth ddoethurol am ymchwil
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill seicoleg gymhwysol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o asesu seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, y gymuned, gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
- Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol sy'n ymgorffori seicometreg ac asesu gwybyddol
- Profiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ar hyd llwybr bywyd, gyda'r bobl hyn yn amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o addysgu, hyfforddi a goruchwylio
- Profiad o gymhwyso seicoleg mewn cyddestunau diwylliannol gwahanol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Amanda Bayley
- Teitl y swydd
- Consultant Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437772819
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector