Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiograffeg
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP085-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/09/2025
Teitl cyflogwr

Radiograffydd
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn chwilio am gyfle i newid eich ffordd o fyw? Gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?
Yn sgil ehangu'r gwasanaethau CT cyfredol, rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant sy'n meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymuno â'n tîm dynamig yma yn Ysbyty Glangwili yng Ngorllewin Cymru.
Mae gan yr adran CT ddau sganiwr gan gynnwys peiriant Aquilion Prime Prism Edition o'r radd flaenaf sy'n darparu ystod o ddelweddau i gefnogi atgyfeirwyr trawma, fflworosgopeg CT, fasgwlaidd, cyhyrysgerbydol, pediatrig ac oncoleg. Yn ystod y chwe mis nesaf byddwn yn datblygu gwasanaeth CT Cardiaidd.
Anogir hyfforddiant ôl-raddedig a dyrchafiad i statws uwch-ymarferydd. Mae gan y Bwrdd Iechyd lawer o ymarfer estynedig, gan gynnwys ffilm blaen, adroddiadau CT ac MRI ac astudiaethau bariwm/HSG a adroddir dan arweiniad radiograffwyr.
Mae’r ardal wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad hyfryd a thraethau prydferth Sir Gaerfyrddin, ac mae’n agos at Abertawe a dim ond awr i ffwrdd o Gaerdydd.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan yn y rota ar alwad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin yn chwilio am Radiograffwyr Band 5.
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur, sydd â statws trawma mawr ar gyfer Gorllewin Cymru.
Anogir trefniadau ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, ffilm blaen, gwaith adrodd Radiograffwyr CT ac MRI, a chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain.
Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT. Mae cymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad yn orfodol ar ôl cwblhau'r hyfforddiant a'r broses gynefino. Mae staff pob dull yn gweithio diwrnodau estynedig a phenwythnosau.
Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, ac wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili; fodd bynnag, bydd disgwyl iddynt fod yn hyblyg yn eu hagwedd at anghenion y gwasanaeth, ac efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Anogir myfyrwyr a i wneud cais.
Mae'r swydd yn un llawn-amser, ac mae hefyd yn golygu gweithio diwrnodau estynedig a bod ar y rota y tu allan i oriau. Mae croeso i chi wneud cais am swydd ran-amser neu i rannu swydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadu ar 22/09/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cofrestriad gweithredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Meini prawf dymunol
- Portffolio DPP
- Profiad o weithio yn rôl Radiograffydd Diagnostig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i ddefnyddio gwahanol offer a thechnegau pelydr-x
- Sgiliau radiograffydd
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddefnyddio systemau gwahanol, h.y. CR, DR a chyfarpar gan ddarparwyr gwahanol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Davey
- Teitl y swydd
- Deputy Site Lead/General Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 430 3163
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector