Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
12 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad tan 25/08/2026 i diwallu anghenion y gwasanaeth)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (cynnwys dyddiau hir/ hwyr/ cynnar rhwng 8yb a 8pm. Cynnwys rhai penwythnosau/gwyliau banc)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS086-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Radioleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 25.08.2026 i diwallu anghenion y gwasanaeth.  Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol ac gofalgar i ymuno â’n tîm fel Gweithiwr Cymorth Radioleg yn yr adran radioloeg  yn Ysbyty Glangwili.

Mae hon yn swydd rhan amser 22.5 awr a fydd yn cynnwys dyddiau hir/ hwyr/gynnar rhwng 8am ac 8pm gan gynnwys penwythnosau. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i chi fod yn unigolyn sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych.

Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus a gallu gweithio'n dda mewn tîm, ond dylech hefyd feddu ar y gallu i fentro a gweithio ar eich pen eich hun.

Ymhlith y dyletswyddau y mae:

Cynorthwyo'r Radiograffwyr sy'n gweithio yn y maes clinigol.

Cyflawni dyletswyddau clercol a gweinyddol.

Cynorthwyo cleifion i baratoi ar gyfer sganiau CT a MRI.

Cynorthwyo'r radiograffwyr a'r cleifion yn ystod ac ar ôl y gweithdrefnau radioleg.

Tasgau glanhau a hylendid cyffredinol yn yr adran.

Cyfrif stoc ac archebu nwyddau traul dynodedig.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 28/07/25

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc gofal iechyd perthnasol, neu feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad cyfatebol ac ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd hyd at achrediad NVQ Lefel 3.
  • Dealltwriaeth o rôl gweithwyr cymorth radiograffeg
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
  • Gwybodaeth am waith clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio gyda'r cyhoedd mewn rolau cyflogedig neu wirfoddol
  • Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn rôl gefnogol/cynorthwyol fel Gweithiwr Cymorth Radioleg neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) neu brofiad o weithio mewn ysbyty/amgylchedd gofalu
  • Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol gan gynnwys technegau aseptig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Breanne Price
Teitl y swydd
Site Lead Superintendent Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229623
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg