Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 01/11/2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (yn ogystal â gwaith ar alwad i ddarparu ar gyfer gwasanaeth 24 awr/saith niwrnod yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP067-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd CT

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan  01/11/2026 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Oherwydd bod y gwasanaethau'n cael eu hehangu, mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am Radiograffydd CT profiadol cefnogi absenoldeb mamolaeth.

Bydd ymgeiswyr yn meddu ar BSc/ byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol CT. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili; fodd bynnag, bydd disgwyl iddynt fod yn hyblyg yn eu hagwedd at anghenion y gwasanaeth, ac efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.

Mae'r swydd yn un lawn-amser, a bydd hefyd yn ofynnol gweithio diwrnodau estynedig a bod ar y rota y tu allan i oriau.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur, sydd â statws trawma mawr ar gyfer Gorllewin Cymru. Mae gan yr adran gyfarpar da, gan gynnwys sganiwr CT GE 750HD a Canon Aquilion Prism a osodwyd yn ddiweddar ym mis Ionawr 22. Rydym yn cyflawni'r ystod 
lawn o archwiliadau, gan gynnwys Angiograffeg Coronaidd CT.

Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Aera 1.5T, ac mae hwn yn cyflawni pob archwiliad, gan gynnwys sesiwn Bediatrig Anesthetig Cyffredinol bwrpasol bob pythefnos. Mae gan yr adran gyffredinol dwy ystafell Samsung DR a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn ddigidol. Mae ystafell fflworosgopi Siemens Artis Zee yn hwyluso cholangiopancreatograffiaeth ôl-redol endosgopig (ERCP), mewnosod rheolyddion calon parhaol a dros dro, hysterosalpingograffeg ac astudiaethau asesu llyncu.

Anogir ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, ffilm blaen, gwaith adrodd Radiograffwyr CT ac MRI, a chyfleoedd argyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain.

Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT, ac o gartref ar gyfer MRI. Mae cymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad yn orfodol ar ôl cwblhau'r hyfforddiant a'r broses gynefino. Mae staff pob dull yn gweithio diwrnodau estynedig a phenwythnosau.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

·         Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

·         Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro

·         Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall

·         47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref

·         Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19.08.2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
  • Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ôl-raddedig
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
  • Cymhwyster ôl-raddedig
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mammography

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
  • Sgiliau radiograffydd
  • Profiad sylweddol o archwiliadau arbenigol (CT/MRI
  • Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Tystiolaeth o ddatblygu rôl

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jessica Watt
Teitl y swydd
CT Superintendent Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227556
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg