Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
Banc - yn ôl yr angen
Oriau
Gweithio hyblyg - Banc - yn ôl yr angen
Cyfeirnod y swydd
100-BANK-AHP001-0626
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/06/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/07/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

BANC – Uwch Radiograffydd Diagnostig – CT/MRI

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am radiograffydd brwdfrydig i ymuno â’r tîm Cyffredinol ar gontract Banc, i weithio oriau yn ôl y gofyn. Mae gennym adran Gyffredinol, CT acMRI brysur sy’n gweithredu dau sganiwr CT ac un sganiwr MRI.

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am radiograffydd brwdfrydig i ymuno â'r tîm  Cyffredinol a CT. Mae gennym adran CT a MRI brysur sy'n gweithredu dau sganiwr CT ac un sganiwr MRI. Cafodd un o'r sganwyr ei osod y llynedd (Canon Aquilion Prism) diolch i gyllid gan Lywodraeth 
Cymru. Mae'r brif ystafell CT yn fodern ac yn groesawgar i gleifion ac yn cynnwys ardal ar gyfer gosod canwlâu ac ardal aros. Mae'r adran CT yn cynnal yr holl archwiliadau, gan gynnwys rhestr Angiograffeg Coronaidd CT wythnosol. Mae gan yr adran MRI restr anesthetig cyffredinol pediatrig wythnosol.

Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, byddant wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol mewn radiograffeg gyffredinol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur yn Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Mae gan yr adran gyfarpar da, gan gynnwys sganiwr CT GE 750 HD a Canon Aquilion Prism a osodwyd yn ddiweddar ym mis Ionawr 2022.

Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Avanto 1.5T. Mae gan yr adran gyffredinol dwy ystafell Samsung DR, ystafell Siemens CR a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn rhai digidol Samsung. Mae ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee yn hwyluso gweithdrefnau ERCP, astudiaethau bariwm, systemau rheoli'r galon a gweithdrefnau HSG. Mae yna adran uwchsain fawr a gwasanaeth radioleg ymyriadol prysur. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol aral
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd ceisiadau'n cael eu rhoi ar restr fer yn seiliedig ar y ‘Cymwysterau a Gwybodaeth’. Bydd meini prawf ‘Profiad’ ac ‘Arall’ yn cael eu hasesu yng ngham y ffurflen gais a’r cyfweliad, fel ei gilydd.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 03/07/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Delweddu Diagnostig (neu gymhwyster cyfatebol)
  • Wedi cofrestru’n Radiograffydd Diagnostig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • Profiad ôl-raddedig sylweddol o weithio yn rôl radiograffydd diagnostig annibynnol
  • Dealltwriaeth o rôl radiograffydd diagnostig Band 6, a sut mae hyn yn wahanol i swydd Band 5
Meini prawf dymunol
  • Portffolio DPP

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddarparu ystod eang o archwiliadau a thriniaethau delweddu o ansawdd uchel dros amrywiaeth o ddulliau delweddu
  • Profiad o ddefnyddio systemau TG a PACS radioleg i gofnodi ac adolygu gwybodaeth benodol i'r claf
  • Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i ysgogi ac annog cleifion a hyfforddeion

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Iaith Gymraeg lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gwiriad Safonol/Manylach clir boddhaol gan y DBS, gan gynnwys gwiriad yn erbyn y Rhestr Waharddedig mewn perthynas ag Oedolion a Phlant
  • Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol i gefnogi anghenion darparu gwasanaeth yn ôl y gofyn
  • Yn hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth, a allai olygu bod angen gweithio oriau anghymdeithasol, neu weithio ar benwythnosau neu’n unol â systemau ar alwad

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Breanne Price
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg