Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cynnwys rhai penwythnosau/gwyliau banc)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS155-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/07/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Radioleg
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, diwyd, gofalgar i ymuno â’n tîm yn rôl Cynorthwyydd Radioleg yn yr adran CT/MRI/Uwchsain a Gweinyddu yn Ysbyty Glangwili.
Mae hon yn swydd lawn-amser a fydd yn cynnwys diwrnodau hir/hwyr/cynnar rhwng 8am ac 8pm gan gynnwys penwythnosau/gwyliau banc. Y diwrnodau gwaith fydd dydd Llun a dydd Gwener yn bennaf ond mae hyblygrwydd yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i chi fod yn unigolyn sy’n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych.
Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus a gallu gweithio’n dda mewn tîm, ond dylech hefyd feddu ar y gallu i fentro a gweithio ar eich pen eich hun.
Ymhlith y dyletswyddau y mae:
· Cynorthwyo’r Radiograffwyr sy’n gweithio yn yr ardaloedd clinigol
· Cyflawni dyletswyddau clercol a gweinyddol
· Cynorthwyo cleifion i baratoi ar gyfer sganiau CT/MRI ac Uwchsain
· Cynorthwyo’r radiograffwyr a’r cleifion yn ystod ac ar ôl y gweithdrefnau radioleg
· Tasgau glanhau a hylendid cyffredinol yn yr adran
· Cyfrif stoc ac archebu nwyddau traul dynodedig
· Cefnogi’r tîm gweinyddol ar gyfer trefnu apwyntiadau cleifion
Darparu arweinyddiaeth glinigol weladwy, gan sicrhau gofal diogel, o safon, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rheoli gweithlu’r ward/tîm, gan gynnwys recriwtio, gwerthuso, perfformiad a llesiant staff.
Arwain o ran ansawdd, diogelwch a llywodraethu clinigol, gan gynnwys archwiliadau, rheoli risg, a gwelliant parhaus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/7/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
- 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster NVQ/Lefel 3 mewn maes perthnasol
- Sgiliau TG da
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ystod o ddyletswyddau yn gweithio mewn rol gefnogol neu gynorthwyydd
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol mewn rol gefnogol neu gynorthwyydd debyg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lowri Harrison
- Teitl y swydd
- Ultrasound Superintendent
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





