Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Banc - yn ôl yr angen
- Oriau
- Gweithio hyblyg - Banc - yn ôl yr angen
- Cyfeirnod y swydd
- 100-BANK-AC002-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/09/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/09/2026
Teitl cyflogwr
Cymorth Clercol Radioleg a Cydlynydd Penodiadau
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r tîm i ddarparu cymorth clercol ar gyfer yr Adran Radioleg sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glangwili.
Mae Adran Radioleg Ysbyty Glangwili yn adran brysur ac amrywiol . Wrth i chi weithio gyda ni byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog i gyrraedd eich llawn botensial yn y tîm. Mae'r adran yn darparu ystod o wasanaethau delweddu diagnostig i'r gymuned.
Prif ddyletswyddau'r swydd
O fod yn rhan o’r tîm clercol, chi yw’r person cyntaf y daw ein defnyddwyr gwasanaethau ar ei draws, felly mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, a gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser.
Mae'r swydd yn cynnwys ystod o ddyletswyddau clercol, gan gynnwys cwrdd â'r defnyddwyr gwasanaethau a'u cyfarch yn y dderbynfa, trefnu apwyntiadau, ac unrhyw ddyletswyddau clercol eraill sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bydd Clerc y Ward yn darparu cymorth gweinyddol i’r Uned Llawdriniaeth Ddydd. Mae ymdeimlad cadarn o waith tîm ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel yn hanfodol. Mae'r rôl yn gofyn am rywun sy'n mwynhau gweithio'n rhan o dîm yn ogystal ag ar ei liwt ei hun.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n llawn cymhelliant ac yn rhoi sylw da i fanylion, i helpu i gefnogi staff y ward ag ystod eang o dasgau gweinyddol. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys diweddaru systemau cyfrifiadurol yr ysbyty, trin a thrafod cofnodion meddygol, ac ateb y ffonau. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.Bydd profiad perthnasol yn cael ei ffafrio, ond cynigir cymorth ar gyfer sgiliau penodol i’r rôl.
Bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
- Delio ag ymholiadau cyffredinol, a defnyddio menter i gyfeirio ymholiadau at unigolyn perthnasol
- Mewnbynnu data i WPAS, galwadau ffôn ac e-bost
- Cyfarch a chwrdd â defnyddwyr y gwasanaeth sy’n dod i’r ward ar gyfer apwyntiadau yn ôl y gofyn
- Delio ag ymholiadau gan aelodau o’r tîm amlddisgyblaethol, defnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd/gofalwyr, gan gyfeirio unigolion at yr adran gywir.
- Darparu cyngor anghlinigol, e.e. apwyntiadau
- Cwrdd â staff ac asiantaethau eraill, a’u cyfarch, h.y. wrth iddynt gyrraedd ar gyfer cyfarfodydd tîm, ac ati
- Ateb yr holl alwadau sy’n dod i mewn a’u cyfeirio at aelodau staff os na ellir rhoi atebion priodol
- Arfer pwyll, doethineb a chyfrinachedd wrth ddelio â staff, defnyddwyr y gwasanaeth a gohebiaeth ysgrifenedig/electronig
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/09/26
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel 3 NEU gymhwyster cyfatebol ynghyd a phrofiad perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol am raglenni Windows, e.e. Microsoft Word
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn rol weinyddol
- Sgiliau trefnu, ynghyd a'r gallu i gynllunio eich llwyth gwaith eich hun a bodloni unrhyw derfynau amser
- Delio a'r cyhoedd, a phrofiad o ateb galwadau ffon ac ymateb i ymholiadau
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw'n ddigynnwrf bob amser
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Breanne Price
- Teitl y swydd
- Site Lead Superintendent
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





