Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diogelu
- Gradd
- GIG AfC: Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR002-1124-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Y Pennaeth Diogelu
GIG AfC: Band 8c
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i arweinydd diogelu a nyrsio profiadol a llawn cymhelliant ymuno â thîm Nyrsio Corfforaethol y Bwrdd Iechyd. Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar gyfer diogelu pobl ledled ardal ddaearyddol y Bwrdd Iechyd a bydd yn gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid statudol ac asiantaethau eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau i pobl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae cofrestru cyfredol gyda'r NMC yn hanfodol i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.
Mae hwn yn gyfle unigryw a gwerth chweil yn eich gyrfa ym maes arweinyddiaeth diogelu. A chithau'n Bennaeth Diogelu, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Sicrwydd a Diogelu, byddwch yn
darparu arweinyddiaeth diogelu arbenigol ar bob lefel o’r sefydliad. Byddwch yn arwain ac yn rheoli ein timau plant sy'n derbyn gofal, a'r timau diogelu plant ac oedolion ledled y Bwrdd Iechyd.
Croesewir ceisiadau ar gyfer y rôl hon sy’n rhoi cyfle i’r ymgeisydd cywir ddarparu arweinyddiaeth gref ac ysbrydoledig i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei rwymedigaethau a’i gyfrifoldebau statudol
o dan yr holl ddeddfwriaeth ar gyfer diogelu ac amddiffyn y cyhoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn:
- Cynghori'r Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyol, Cyfarwyddwr Nyrsio, aelodau’r Tîm Gweithredol a’r Prif Swyddog ar faterion diogelu plant, oedolion a diogelu'r cyhoedd.Mae'n cynnwys: canllawiau/newid deddfwriaethol Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â diogelu pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin/esgeuluso; adolygiadau cenedlaethol allweddol; materion diogelu plant/ oedolion arwyddocaol, gan gynnwys canfyddiadau adolygiadau statudol.
- Arwain cyfraniad at waith y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru/ is-grwpiau, gan sicrhau bod y sefydliad yn chwarae rhan yn ddatblygu/ chyflawni cynlluniau partneriaeth a gwella.
- Arwain gwaith o gynllunio/ datblygu Diogelu ledled y Bwrdd Iechyd i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn y modd gorau i ddiwallu anghenion datblygol y gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio strategol yn y tymor canolig a fydd yn golygu dadansoddi data/ thueddiadau diogelu ac amddiffyn y cyhoedd mewnol, amlasiantaethol, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i’r holl wasanaethau y Bwrdd Iechyd ynghylch materion Diogelu gan gynnwys cyngor ar faterion sy’n ymwneud â phobl mewn swydd gyfrifol mewn perthynas â rôl ehangach diogelu’r cyhoedd.
- Sicrhau bod y tîm diogelu yn darparu cymorth, goruchwyliaeth a hyfforddiant ar ddiogelu i’r staff sy’n ymwneud â phobl agored i niwed neu yn perygl o gael eu cam-drin.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 09/07/2025.
Cynhelir y cyfweliadau ar 10/07/2025/2025.
Manyleb y person
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio ledled y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cymhwyster Meistr neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol pellach
- Gwybodaeth uwch am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn y cyhoedd a chanllawiau a rheoliadau statudol cysylltiedig
- Gwybodaeth am waith a swyddogaeth o fewn y Byrddau Diogelu Rhanbarthol perthnasol
- Tystiolaeth o gymhwyster datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth
- Gwybodaeth arbenigol sylweddol am ddiogelu a gwella ansawdd, newid trawsnewidiol ledled system gyfan, a datblygu strategol, a hynny'n ddelfrydol yn y GIG neu mewn sefydliad cymhleth tebyg
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu neu brofiad priodol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad helaeth o weithio ar lefel uwch yn y GIG mewn cyd-destun diogelu
- Profiad sylweddol o weithio ar draws ffiniau proffesiynol a gweithredol mewn rôl gysylltiedig
- Profiad sylweddol o gynllunio a chyflawni strategaeth
- Profiad o weithio gydag Awdurdodau Lleol a'r Sector Annibynnol
- Tystiolaeth o gynnal archwiliadau, gwerthuso gwasanaethau a llunio achosion busnes
- Profiad o gymryd rhan mewn Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant ac Adolygiadau o Ddynladdiadau Domestig
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddatblygu deunyddiau addysg a hyfforddi
- Profiad o weithio mewn tîm amlasiantaethol
- Profiad o ymchwilio a datblygu ymarfer
- Profiad o gynnal Archwiliadau Ansawdd a Rheoli Perfformiad
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau dylanwadu effeithiol ar lefel uwch
- Cyflwynydd hyderus i grwpiau o bob maint a'r cyhoedd
- Gallu profedig i arwain a chefnogi timau
- Craffter ariannol a sgiliau rheoli cyllideb
- Sgiliau rheoli gwrthdaro a chyfryngu
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cathie Steele
- Teitl y swydd
- Interim AD of Nursing Assurance & Safeguarding
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 239756
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector