Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ysgrifennydd
Gradd
Band 4
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Diwrnodau gweithio Dydd Llun-Dydd Mercher)
Cyfeirnod y swydd
100-AC156-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Niwroffisioleg Glinigol, Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-ysgrifennydd Meddygol (Niwroffisioleg)

Band 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Niwroffisioleg Glinigol.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon a chymwys ar gyfer swydd Uwchysgrifennydd Meddygol rhan-amser i weithio 22.5 awr yn Ysbyty Cyffredinol Glangwilli, a hynny'n barhaol.

Diwrnodau gwaith yr ymgeisydd llwyddiannus fyddai o ddydd Llun i ddydd Mercher yn unig er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gan weithio 22.5 awr yr wythnos, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o ansawdd i'r Meddygon Ymgynghorol a'r tîm Niwroffisioleg.

Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, gan gynnwys derbyn a dosbarthu post, trawsgrifio sain, a lanlwytho adroddiadau sensitif iawn i gronfeydd data'r ysbyty, gan gynnal cyfrinachedd bob amser. Bydd disgwyl i chi amlygu sgiliau trefnu 
rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich ffordd o weithio. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, gan amlygu doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny’n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.

Mae profiad o Microsoft Word, Excel, ac e-bost, ynghyd â phrawf o'ch sgiliau ysgrifenyddol a phrofiad blaenorol o derminoleg feddygol, yn hanfodol. Bydd gofyn i chi ddefnyddio system cronfa ddata cleifion y Bwrdd Iechyd a phecynnau TG perthnasol eraill.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Niwroffisioleg Glinigol.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 07/07/25

Manyleb y person

**WTS**

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o wybodaeth a sgiliau gweinyddol/swyddfa Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ysgrifenyddol

**WTS**

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
  • Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data.
  • Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

**WTS**

Meini prawf dymunol
  • **WTS**

**WTS**

Meini prawf hanfodol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Matthew
Teitl y swydd
Principal Clinical Scientist (Neurophysiology)
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Donna Morris

Uwch-reolwr Gwasanaeth ar gyfer Niwroleg

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg