Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysgrifennydd
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC249-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Myddfai
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/09/2025
Teitl cyflogwr

Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm (Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu)
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r Tîm Gweinyddu yn rôl Ysgrifennydd/Gweinyddwr y Tîm ar gyfer y Gwasanaethau Amenedigol yn Nhŷ Myddfai, Tre Ioan, Caerfyrddin.
Yn hanfodol i'r rôl y mae profiad o amrywiaeth o systemau TG, sy'n cynnwys Microsoft Word, rheoli Excel, casglu data, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig a phrofiad blaenorol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflawni ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaeth, gweithredu ein systemau gweinyddu cleifion, (WPAS) a Care Partner, a derbyn a dosbarthu post.
Bydd hefyd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus brosesu atgyfeiriadau a chynnal cronfa ddata fanwl gywir. Bydd disgwyl iddo amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu ei ffordd o weithio. Rhaid iddo allu gweithio ar ei fenter ei hun, gan arddel doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny'n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau
cyfathrebu rhagorol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr o safon i'r tîm, ynghyd â chyflenwi pan fydd staff gweinyddol yn absennol.
Gall y rôl hefyd gynnwys teithio i safleoedd eraill yn y Gyfarwyddiaeth, a gweithio yno, er mwyn cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 04/09/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster RSA/NVQ 3 neu brofiad cyfwerth amlwg
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ECDL/TGAU neu uwch mewn TGCh
- Gwybodaeth am derminoleg glinigol/feddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office [Excel, Word, PowerPoint, Access, MS Teams, Cyhoeddi Penbwrdd ac E-bost]
- Profiad o weithio mewn rôl weinyddol mewn amgylchedd swyddfa prysur
- Profiad o lunio a chynnal taenlenni a chronfeydd data
- Profiad o gymryd a thrawsgrifio cofnodion cyfarfodydd
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o systemau gweinyddu cleifion
- Profiad o weithio gyda TPro
- Yn gyfarwydd â defnyddio e-bost a chwilio'r rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
- Dealltwriaeth neu brofiad o weithio ym maes Iechyd Meddwl a/neu Anableddau Dysgu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bronwyn Coltman
- Teitl y swydd
- Administration Manager MH&LD
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector