Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Llawdriniaeth
- Gradd
- Band 6
- Contract
- 12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 20/06/26 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.)
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR167-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/06/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Theatr -Sgrybs
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 20/06/26 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Ymarferydd Theatr Band 6 ymwneud â dyletswyddau sgryb ar safle'r theatr yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae hwn yn gyfle gwych i staff sy'n awyddus i ddatblygu ac sy'n gweithio tuag at rôl uwch. Mae profiad ym mhob arbenigedd yn ddymunol ondbydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i ehangu ei sgiliau.
Mae'r gallu i wella gwasanaethau yn hanfodol.
Bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu mewn rôl arweinyddiaeth. Gyda chefnogaeth yr uwch-dîm, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth 24 awr yn rhedeg yn hwylus.
Cynhelir y cyfweliadau ar 23/06/2025
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi arweinydd(ion) yr adran i gynnal gwasanaeth effeithlon ac effeithiol sy'n darparu gofal diogel i gleifion mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo ymagwedd ymatebol at anghenion gofal iechyd sy'n newid.
Sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol, a byddwch yn unigolyn hunanysgogol er mwyn sicrhau hunanddatblygiad mewn perthynas ag astudiaethau rheoli ac arwain.
Byddwch yn cefnogi Rheolwyr y Tîm ac yn cydweithio â nhw i sicrhau bod gofal nyrsio o safon uchel yn cael ei ddarparu mewn modd effeithiol.
Arwain y gwaith o redeg maes/adran glinigol arbenigol o ddydd i ddydd, a phan neilltuir hynny, chi fydd cydlynydd dyddiol yr adran, gan ddarparu sgiliau rheoli ac arwain goruchwyliol mewn amgylchedd sy’n gymhleth ac o dan bwysau.
Bod yn Ymarferydd brys medrus a fydd yn gweithio'n annibynnol i gefnogi cyd-weithwyr eraill i gydlynu'r meysydd clinigol a darparu gwybodaeth arbenigol, gan sicrhau bod gweithlu nyrsio/ymarferwyr medrus yn cael ei gynnal a'i ddatblygu.
Cymryd rhan mewn rota ar alwad a rota nos, ar delerau'r Agenda ar gyfer Newid.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Gyffredinol Lefel 1 neu Ymarferydd Adrannol Gweithredol Cofrestredig.
- Hyfforddiant/addysg glinigol benodol yn ymwneud â theatr/adfer/anaestheteg
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus hyd at lefel diploma ôl-raddedig
- Sgiliau nyrsio clinigol estynedig
- Yn barod i ymgymryd â rhaglen datblygu arweinyddiaeth fewnol yn y ddwy flynedd nesaf
- Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant arall sy'n hanfodol i'r rôl
Meini prawf dymunol
- Rhaglen Rheolaeth/Arweinyddiaeth
- BSc (mewn pwnc cysylltiedig ag iechyd)/yn barod i weithio tuag at hynny
- Tystysgrif/diploma mewn nyrsio Obstetreg neu Trawma
- Modiwl Addysgu ac Asesu
- Cwrs/Modiwl Gofal Critigol cydnabyddedig
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru gan gynnwys profiad yn y maes clinigol perthnasol
- Cymwyseddau amlsgiliau yn yr adran lawdriniaethau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Angela Festa
- Teitl y swydd
- Professional Development lead, theatres
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783090
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Uwch-brif Nyrs Louise Davidson
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector