Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatr
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-4pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR281-0925
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £56,514 - £63,623 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/10/2025
Teitl cyflogwr

Uwch-reolwr Nyrsio / Uwch-reolwr Clinigol
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am uwch-ymarferydd cofrestredig profiadol i fod yn rhan o'n tîm theatr cyfeillgar a brwdfrydig yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Mae gan Glangwili gyfadeilad theatrau mawr sy'n cynnal gwasanaethau Ymholiadau Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD), obstetreg brys, a thrawma 24 awr, ynghyd â theatrau dewisol, yn cynnwys darpariaeth theatr dydd ar gyfer cleifion a phediatreg.
Diben rôl Rheolwr y Theatr yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol ar yr holl adnoddau yn y Theatrau Llawdriniaethau, gan sicrhau gwelededd, hygyrchedd a chymorth. Bydd hyn yn cynnwys darparu arweinyddiaeth broffesiynol effeithiol i'r tîm o Ymarferwyr
Theatr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd er mwyn:
sicrhau'r safon uchaf o ofal; gofalu bod y gwasanaethau cymorth priodol ar gael; sicrhau gwasanaeth o ansawdd, a chynnal safon uchel o ran rheoli heintiau; a darparu presenoldeb hygyrch a chefnogol y gall cleifion a'u teuluoedd fynd ato am gymorth, cyngor a chefnogaeth ac i ddatrys pryderon yn gynnar.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn arweinydd hygred a phrofiadol sy'n meddu ar y gallu i rymuso a datblygu pob Ymarferydd Theatr sy'n gweithio yn yr amgylchedd clinigol, gan fod yn atebol am sicrhau safonau proffesiynol uchel.
A chithau'n uwch-ymarferydd cofrestredig ac yn arweinydd tîm, byddwch yn cefnogi tîm o ymarferwyr band 7 i redeg yr adran theatrau o ddydd i ddydd ac yn darparu arweinyddiaeth glinigol arbenigol. Byddwch hefyd yn atebol am eich gweithredoedd proffesiynol eich hun ac yn gyfrifol am redeg y gwasanaeth mewn modd effeithiol.
Bydd gan ddeiliad y swydd y cyfrifoldeb a'r rhyddid i ddarparu lefelau arbenigol o ymarfer a gwybodaeth a hyrwyddo gofal seiliedig ar dystiolaeth ym maes gofal amdriniaethol, ac i weithio o fewn ffiniau personol, proffesiynol a chorfforaethol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 02/10/2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
-
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
-
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
-
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
-
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
-
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth NEU Ymarferydd Adran Llawdriniaeth Cofrestredig a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cyrsiau ôl-raddedig perthnasol a/neu brofiad mewn arbenigeddau sy'n ymwneud â'r swydd, a hynny hyd at lefel meistr
- Tystiolaeth o ddatblygu rheolaeth yn barhaus
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth profadwy mewn perthynas â chofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth/Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal a gofynion o ran DPP
- Gwybodaeth am fethodolegau gwella ansawdd
- Gwybodaeth am bolisïau a materion cyfredol o ran arfer proffesiynol, cydymffurfedd, safonau a'r GIG yn ehangach, ynghyd â dealltwriaeth ohonynt
- Dealltwriaeth drylwyr o'r rôl a'i diben yn y sefydliad
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Addysgu/Asesu/Mentora
- Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT Efydd/Arian)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol perthnasol o wasanaethau'r Theatr a'r Uned Llawfeddygaeth Ddydd
- Profiad o ymgymryd â rôl rheolwr canol yn sector acíwt y GIG
- Profiad o reoli newid
- Profiad profedig o arweinyddiaeth broffesiynol ar lefel uwch-reolwr
- Rhaid gallu rheoli gwariant yn unol â chyllideb a datblygu dulliau rheoli digonol i wneud hynny
- Rhaid meddu ar brofiad uniongyrchol o newid mawr i wasanaeth a sefydliad, ynghyd â gwybodaeth am y modd i lywio gwasanaeth trwy raglen newid lwyddiannus
- Profiad o reoli staff a gweithio gydag Undebau Llafur neu gynrychiolwyr staff
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- James Sheldon
- Teitl y swydd
- Interium Head of Nursing - Planned Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector