Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Wroleg
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS088-0426
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/04/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/05/2026
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cynorthwyol
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
Mae Ward Derwen yn gofalu am gleifion Wroleg, Llawfeddygol, a Thrawma ac Orthopedeg, gan gynnig profiad clinigol amrywiol a gwerth chweil.
Mae'r swydd yn gofyn am Dystysgrif Lefel 4 mewn pwnc sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i feithrin sgiliau newydd a chamu ymlaen yn broffesiynol mewn amgylchedd cadarnhaol a chefnogol.
Mae'r rota yn cynnwys amrywiaeth o batrymau shifft yn ystod y dydd, gan gynnig dydd Llun i ddydd Sul i ddiwallu anghenion yr unigolyn a’r gwasanaeth (nid yw nosweithiau’n ofynnol).
Mae'r rota yn cynnwys amrywiaeth o batrymau shifft yn ystod y dydd, gan gynnig dydd Llun i ddydd Sul i ddiwallu anghenion yr unigolyn a’r gwasanaeth (nid yw nosweithiau’n ofynnol).
Swydd amser llawn yw hon.
Rydym yn croesawu ymholiadau anffurfiol gan unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais, ac yn eich annog yn frwd i siarad ag un o'n Prif Nyrsys i ddysgu rhagor am weithio gyda ni.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd ag ystod eang o dasgau clinigol dirprwyedig yn unol â gofynion cymhwysedd Lefel 4, gan sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion.
Cefnogi’r gwaith o asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal dan oruchwyliaeth Nyrs Gofrestredig.
Cyfrannu at wella profiad y claf, hybu annibyniaeth, a chefnogi cleifion i wneud y mwyaf o'u gallu gweithredol.
Cynnal arsylwadau clinigol, uwchgyfeirio pryderon yn briodol, a chofnodi'r holl ganfyddiadau yn gywir yn unol â pholisi'r Bwrdd Iechyd.
Cynorthwyo gydag anghenion gofal personol, gan gynnwys ymolchi, gwisgo, cymorth ymataliaeth, symudedd, maeth, a hydradu, gan gynnal urddas bob amser.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 01/05/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. gofalu am gathetr - gan gynnwys tynnu cathetr
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a chofnodi arsylwadau bywyd a dehongli'r canlyniadau
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. adolygu asesiadau risg
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a dehongli glwcos gwaed
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. Profiad o gefnogi nyrs gofrestredig gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Parsell-Evans
- Teitl y swydd
- Senior Ward Manager Derwen Ward
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227179
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





