Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiograffeg
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP100-0625-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd – CT neu MRI

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolion dynamig a llawn cymhelliant ymuno â’r tîm Radiograffwyr ym Mhrifysgol Hywel Dda. Y safleoedd sydd â swyddi gwag yw Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd, ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth. Mae'r tair adran yn cynnig amgylchedd cefnogol ac anogol i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol a symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes radiograffeg. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr radiograffeg yn y drydedd flwyddyn sy'n cymhwyso eleni. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae hon yn swydd newydd a chyffrous; bydd y Radiograffwyr Band 5 a benodir yn gweithio yn yr adrannau CT neu MRI. Bydd yr ymgeiswyr yn cael cyfle i hyfforddi mewn maes arbenigol. Disgwylir iddynt ymgymryd â hyfforddiant ar osod canwlâu a gweithio gyda thîm ymroddedig o radiograffwyr a staff cymorth. Byddwch yn cael cynllun preceptoriaeth hyfforddi/cymhwysedd a chewch gefnogaeth lawn i gael eich hyfforddi yn y dull. Mae gan bob ysbyty sganwyr modern a mannau gwaith sydd newydd eu hadnewyddu. 

Bydd y penodiad am 37.5 awr yr wythnos a fydd yn cynnwys shifftiau dyddiau hir, gyda'r nos, nosweithiau, dros y penwythnos ac ar wyliau banc. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 12/09/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Delweddu Diagnostig (neu gymhwyster cyfatebol)
  • Cofrestriad gweithredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Meini prawf dymunol
  • Portffolio DPP
  • Profiad o weithio yn rôl Radiograffydd Diagnostig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn fedrus mewn perthynas â thechnegau radiograffeg tafluniadol ac addasu ffactorau aramlygu
  • Profiad o ddefnyddio systemau TG a PACS radioleg i gofnodi ac adolygu gwybodaeth benodol i'r claf
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio systemau gwahanol, h.y. CR, DR a chyfarpar gan ddarparwyr gwahanol

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Breanne Price
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sanjeev Daram

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg