Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio
- Gradd
- Gradd 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR103-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ceredigion
- Tref
- Ceredigion
- Cyflog
- £75,405 - £86,885 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/06/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Pennaeth Nyrsio y Grŵp Gwasanaethau
Gradd 8c
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd Pennaeth Nyrsio y Grŵp Gwasanaethau yng Ngheredigion yn gyfle gwych i fyw a gweithio yng Ngorllewin Cymru. Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o Uwchdîm Rheoli y Grŵp Gwasanaethau, ac yn cydweithio'n agos â'r Rheolwr Cyffredinol a'r Cyfarwyddwr Clinigol gan chwarae rhan allweddol yn yr agenda rheoli, datblygu a gwella
gwasanaethau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n unol â strategaethau a pholisïau cenedlaethol/lleol ac yn unol â chanllawiau proffesiynol, gan ddehongli'r rhain i lywio'r broses o ddatblygu polisïau, a gwella arferion a'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ledled y Grŵp Gwasanaethau. Bydd yn hanfodol i'r ymgeisydd amlygu arweinyddiaeth gyffredinol a chyfrifoldeb rheoli gweithredol dros nyrsio, ansawdd, a phrofiad y claf, a bydd yn sicrhau bod adnoddau dirprwyedig yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol ac effeithlon, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio adnoddau nyrsio yn effeithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn gyfrifol am reolaeth weithredol o ddydd i ddydd a datblygiad strategol yr holl wasanaethau, gan sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddatblygu gwasanaethau rhagweithiol ac arweinyddiaeth strategol, a galwadau adweithiol cyfrifoldebau gweithredol a rhanddeiliaid.
Arwain yr agenda ansawdd, diogelwch a phrofiad y claf ar draws y grŵp gwasanaethau, gan ddefnyddio adborth gan gleifion i lywio'r broses o ddarparu gofal diogel, clinigol effeithiol, ac o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf ac yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.
Cymryd rhan ac arwain y timau nyrsio mewn prosiectau ledled y gwasanaeth i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio sy'n cyd-fynd â'r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyfarwyddo, arwain, bod yn rheolwr llinell, a chymell y tîm/timau nyrsio i sicrhau safon uchel o broffesiynoldeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gan ofalu bod y gweithgarwch yn cyd-fynd yn llawn â busnes y Bwrdd Iechyd. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora, cynllunio adnoddau, gosod safonau, rheoli perfformiad, a datblygu’r
tîm ac unigolion.
Datblygu cynlluniau ar gyfer y gweithlu sy'n rhagweld gofynion nyrsio yn gywir o ran darparu gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac yn rhoi ystyriaeth i ddatblygu rolau yn unol â'r agenda foderneiddio.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 01 neu 03/07/2025.
Cynhelir cyfweliadau ar 02 neu 04/07/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel nyrs gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd meistr neu lefel gyfatebol o brofiad
- Cymhwyster rheoli neu gymhwyster proffesiynol priodol
- Tystiolaeth o DPP
- Gwybodaeth am strategaethau, polisïau a chynlluniau'r GIG, Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys polisïau adnoddau dynol a sbardunau gwleidyddol a chymdeithasol ehangach sy'n dylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hanes profedig o reolaeth effeithiol ar lefel uwch
- Profiad o reolaeth ariannol gan gynnwys tystiolaeth o gyflawni yn unol â chyllidebau ac amserlenni
- Portffolio helaeth o brofiad o ran gweithio ar lefel gymharol uchel mewn sefydliad mawr cymhleth
- Profiad o arwain newid mawr mewn gwasanaethau a threfniadaeth
- Rhaid meddu ar ymwybyddiaeth dda o gynllunio a datblygu a rhoi strategaethau ar waith
- Profiad blaenorol helaeth o weithio ar lefel uwch lle bu'n ofynnol meddu ar gofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Anna Chiffi
- Teitl y swydd
- Assistant Director of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Louise Cullum
Rheolwr - System Ceredigion
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector