Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Domestig
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 12.5 awr yr wythnos (Dylid gweithio rhwng 5pm - 7:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-EA015-0226-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Abergwaun
Tref
Abergwaun
Cyflog
£24,833 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/04/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/04/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwesty

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn mwynhau cwrdd â phobl ac yn cael boddhad o wneud gwaith da sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn? Os felly, cysylltwch â ni, oherwydd gallwn gynnig amodau gwaith rhagorol i Gynorthwyydd Gwasanaethau Gwesty.

Ar hyn o bryd, rydym yn dymuno recriwtio unigolyn hyderus, ymroddgar a fydd yn chwarae rhan weithredol o ran glanhau ein safleoedd cymunedol. 

Yn eich datganiad ategol, dylech gynnwys tystiolaeth i ddangos unrhyw brofiadau blaenorol (â thâl neu heb dâl) sy'n adlewyrchu gwaith tîm a/neu sgiliau perthnasol i'r rôl hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn cynnig proses ymsefydlu lawn, wedi'i dilyn gan raglen hyfforddi helaeth lle bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hyfforddi ym mhob agwedd ar y gwasanaeth.

Mae Cynorthwywyr Gwasanaethau Gwesty yn gyfrifol am gyflawni a chynnal safonau glanweithdra uchel ym mhob amgylchedd clinigol ac anghlinigol ledled y safleoedd cymunedol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 15/04/2026.

Manyleb y person

Arall

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny

Sgiliau a Phriodweddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau arferol
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac ymateb i alwadau newidiol ar fyr rybudd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ghislaine Davies
Teitl y swydd
Soft FM Officer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773249
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg