Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radiograffeg
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol: Gall sifftiau gynnwys diwrnodau hir, dros nos ac ar alwad.
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Gofyniad i gymryd rhan mewn rota ar alwad cyffredinol)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP086-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd Arbenigol

Gradd 6

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Radiograffeg Gyffredinol rhagorol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn ymarferydd medrus, yn drefnus, yn gallu ymaddasu, ac yn gallu amlygu rhinweddau arweinyddiaeth cryf.

Mae'r adran Radioleg yma yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg wedi elwa'n ddiolchgar o fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae llawer o'r cyfarpar yn newydd sbon, ac mae mwy o welliannau ar y gweill yn y dyfodol agos. Mae gennym amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys dau sganiwr CT, MRI, Meddygaeth Niwclear, Uwchsain, Ystafelloedd Pelydr-X Cyffredinol a Damweiniau ac Achosion Brys a Fflworosgopeg.

Rydym yn dîm bach, ond dynamig, sy'n cynnig cyfleoedd gwych i ehangu rolau yn y Bwrdd Iechyd, wrth i radiograffwyr adrodd ar ystod o astudiaethau, gan gynnwys CT a Meddygaeth Niwclear ac astudiaethau ôl-raddedig eraill.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio yn yr ardal pelydr-X gyffredinol. Byddai hyn yn cynnwys delweddu pelydr-X yn achos cleifion allanol wedi'u trefnu a chleifion meddygon teulu sy'n galw i mewn; mân anafiadau, damweiniau ac achosion brys a chleifion mewnol. Cylchdroi trwy theatrau a 
systemau symudol, fflworosgopi a CT gyda'r potensial i weithio ar safleoedd cymunedol gan gynnwys Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod.

Byddai cymryd rhan yn y system ar alwad y tu allan i oriau yn orfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng 
  • Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 09/10/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ôl-raddedig
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS.
  • Cymhwyster ôl-raddedig
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn mamograffeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i ddefnyddio gwahanol offer a thechnegau pelydr-x
  • Sgiliau radiograffydd
  • Profiad sylweddol o archwiliadau arbenigol (CT/MR)
  • Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Tystiolaeth o ddatblygu rôl

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Warner
Teitl y swydd
General Superintendent Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg