Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddol
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC175-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- LLanelli
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/08/2025
Teitl cyflogwr

Cynorthwyydd Personol i'r Tîm Arweinyddiaeth Radioleg
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Cynorthwyydd Personol llawn-amser i'r Tîm Arweinyddiaeth Radioleg, wedi'i leoli yn adran Radioleg Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli. Mae'r swydd hon yn hanfodol i sicrhau bod y tîm rheoli Radioleg, sy'n cydweithio'n agos, yn rhedeg yn esmwyth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth i'r Tîm Arweinyddiaeth Radioleg o fewn ystod ei gyfrifoldebau, gan fod yn brif sianel ar gyfer cyfathrebu yn y Tîm Rheoli Radioleg, ac ymhlith cyd-weithwyr yn y Bwrdd Iechyd a chyd-weithwyr Uwch yn sefydliadau'r GIG.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hunanysgogol, sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn effeithlon o ran pecynnau Microsoft Office, yn gallu gweithio'n annibynnol, a bydd yn gallu bod yn flaengar a gweithio i derfynau amser
a blaenoriaethu yn wyneb gofynion newidiol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. Darperir ein gwasanaethau yn: · Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd · Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall · 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref · Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
|
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 1.8.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Lefelau UG, NVQ3) neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad amlwg o amrywiaeth lawn o ddyletswyddau yn ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/Sefydliadol
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
- Wedi eich addysgu i lefel diploma
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fod yn Gynorthwyydd Personol i Uwch-reolwr (neu set sgiliau drosglwyddadwy amlwg) gan gynnwys; Blaenoriaethu ffrydiau gwaith a bodloni terfynau amser heriol; Rheoli dyddiadur electronig mewn modd effeithiol ac effeithlon; Ymdrin ag ymholiadau ffon amrywiol; Trefnu a chefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol; Clywdeipio a chopideipio, teipio a thrawsgrifio darnau arddweud; Llunio dogfennau clir a chywir; Croesawu ymwelwyr mewn modd cyfeillgar ac effeithlon; Cymryd a chreu cofnodion cywir; Dehongli a choladu data mewn fformat safonol; Cofnodi gwybodaeth gyllidebol; Chwilio am wybodaeth briodol ar y Rhyngrwyd, a nodi a lawrlwytho'r wybodaeth honno; Adalw gwybodaeth o'r ffynonellau sydd ar gael; Rheoli/cynnal a chadw system ffeilio, ar ffurf ffeiliau electronig a ffeiliau papur; Rheoli a datblygu systemau swyddfa; Profiad o drefnu cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau; Paratoi deunyddiau cyflwyno; Sgiliau prawfddarllen; Delio a gwybodaeth dra chyfrinachol, sydd weithiau'n ddadleuol/sensitif; Dealltwriaeth o'r GIG
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office (gan gynnwys MS Teams)
Meini prawf dymunol
- Ffefrir profiad o weithio mewn sefydliad mawr, cymhleth, y GIG, neu'r sector cyhoeddus.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gail Roberts-Davies
- Teitl y swydd
- Head of Radiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, croesewir ymholiadau anffurfiol.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector