Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deieteg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 25.5 awr yr wythnos (Gellir cytuno ar lai o oriau os yw hynny'n ofynnol ar gyfer ymgeisydd addas.)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP069-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 20/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/09/2025
Teitl cyflogwr

Deietegydd Cymorth Presgripsiynu
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych am ymuno â thîm deieteg gwych, dynamig, cyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a byw mewn rhan brydferth o Gymru? Yna dyma'r rôl i chi! Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ddeietegydd Profiadol i ymuno â'r tîm cymorth presgripsiynu a thîm amlddisgyblaethol y gwasanaeth deieteg.
Rydym yn hapus i archwilio cyfleoedd newydd i chi ddatblygu, ac yn cynnig cymorth proffesiynol da ac amgylchedd gweithio cyfeillgar, a byddwn yn eich galluogi i feithrin sgiliau o ran cymhwyso dulliau gwella ansawdd ac effeithiolrwydd y gwasanaeth, ac i barhau â'ch datblygiad proffesiynol.
Fideo Dietegydd - https://youtu.be/jiLm93J9Y1Q
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r broses o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso arfer gorau mewn perthynas ag atchwanegiadau maethol a chynnyrch maethol FP10 cysylltiedig â maeth wedi'u presgripsiynu ledled y Bwrdd Iechyd.
Gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid ym maes rheoli meddyginiaethau, gofal sylfaenol a phartneriaid eraill yn ôl y gofyn.
Defnyddio sgiliau a gwybodaeth ddeietegol arbenigol i asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau.
Cynnal ymyriadau deietegol mewn amrywiaeth o leoliadau.
Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan ganolog o'r rôl hon, yn ogystal â darparu cymorth i hyfforddi myfyrwyr, a datblygu a rhoi ein rolau Ymarferwyr Cynorthwyol Deieteg ar waith.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod annatod o'r tîm deieteg gan weithio i sicrhau'r gofal maethol gorau ar gyfer cleifion, a hynny'n ffactor allweddol sy'n dylanwadu ar adferiad a chanlyniadau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rydym yn agored i ystyried trefniadau gweithio'n hyblyg, gan eich cefnogi i gyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a bodlonrwydd swydd uchel.
Ystyrir trefniadau gweithio rhan-amser (o leiaf tri diwrnod yr wythnos).
Fideo tair sir - https://youtu.be/RUMDpjtu1sY
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 01.09.2025
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
- Gwybodaeth glinigol arbenigol am ofal maethol a deieteg trwy hyfforddiant arbenigol hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol cyfatebol
- Wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gwrs cyfatebol
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth, a'r gallu i'w defnyddio i lywio gofal deietegol
- Gwybodaeth ymarferol am ganllawiau a pholisïau proffesiynol a chlinigol perthnasol i ddeieteg acíwt/i'r maes arbenigol
- Gwybodaeth am roi methodoleg gwella ansawdd ar waith
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster cyf-weld ysgogiadol
- Cymhwyster dadansoddi data
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Yn gallu teithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ym maes deieteg glinigol yn y GIG neu sefydliad gofal iechyd tebyg
- Profiad eang a chyfunol o reoli llwyth achosion clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
- Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol
- Cymryd rhan mewn gwaith prosiectau/gwella ansawdd/datblygu, ac iddynt ganlyniadau amlwg
- Hyfforddi myfyrwyr
- Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Dirprwyo i staff anghofrestredig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Roberts
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Emma Catling
Deietegydd Arweinydd Strategol Diffyg Maethiad
Rydym yn croesawu ymholiadau ac ymweliadau anffurfiol gan ddarpar ymgeiswy.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector