Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapi
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS061-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri
- Tref
- Llanymddyfri
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwydyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/06/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cynorthwyol Therapïau (Gofal Canolraddol)
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm sydd wedi ennill Gwobr y GIG ac Iechyd y Cyhoedd, “Tîm Cartref yn Gyntaf” (Y Gwasanaethau Gofal Canolraddol) yn rôl ‘Ymarferydd Cynorthwyol Therapïau’.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Cyflwyno Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol, Sir Gaerfyrddin – Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales).
Pwy ydym ni?
Rydym yn dîm arloesol, cynhwysfawr o Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapïau, Deietegwyr, Nyrsys, Meddygon Teulu, Uwch-ymarferwyr Parafeddygol, Uwch-ymarferwyr Nyrsio, Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Ailalluogi ac Asiantau Trydydd Sector sy'n ymdrechu i ddarparu'r cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn mor agos i gartref â phosibl.
Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri, un o'n cyfleusterau Gofal Canolraddol adsefydlu yn y gwely. Byddwch yn darparu ymyriadau therapiwtig ar ran y timau Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol a Deieteg i hwyluso a gwella adferiad a sicrhau'r annibyniaeth weithredol orau posibl. Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth allgymorth o'r ysbyty i gartref y cleifion.
A chithau'n ymarferydd sy'n meddu ar y gallu i ymaddasu ynghyd ag agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, mae disgwyl hefyd i chi weithio ar draws y safleoedd yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhan o'n gwasanaethau yn y cartref, gan gefnogi'r rhai sydd eisoes yn eu cartrefi eu hunain.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn rhan o'r gwasanaeth therapïau, byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda'n Hymarferwyr Cynorthwyol Therapïau, ein Ffisiotherapyddion, ein Therapyddion Galwedigaethol a'n Deietegydd i ddarparu gofal o ansawdd, seiliedig ar dystiolaeth, i'r gymuned sy'n cael gofal canolraddol.
Mae'r rôl yn cynnwys asesu, cynllunio, gweithredu, monitro a gwerthuso rhaglenni ymarfer corff ac addysg a chynlluniau gofal maeth, yn unol ag anghenion yr unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio. Mae'r rolau yn y gymuned yn bennaf, a gallant gynnwys gweithio'n annibynnol a chydag aelodau
eraill o'r tîm amlddisgyblaethol.
Bydd gennych brofiad o weithio gyda chleifion ag anghenion cymhleth o ran gofal iechyd neu adsefydlu, a byddwch yn gallu amlygu sgiliau rhesymu clinigol i'ch galluogi i asesu a thrin cleifion yn unol â phrotocolau'r gwasanaeth, a hynny heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Byddwch yn cael cymorth tîm ymroddedig sy'n ymdrechu i greu amgylchedd blaengar, cyfeillgar ac ystyriol. Sylweddolwn mai ein staff yw ein hased cryfaf, a bod buddsoddi mewn pobl fel unigolion yr un mor bwysig â buddsoddi yn eu datblygiad proffesiynol. Byddwch yn cael hyfforddiant anffurfiol a ffurfiol ynghyd â'r cyfle i gwblhau Diploma Adsefydlu Lefel 3 a Lefel 4.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
I wneud cais, dylech feddu ar gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, neu hyfforddiant, cymwysterau neu brofiad cyfatebol arall, ynghyd â phrofiad clinigol o weithio mewn gwasanaeth therapi.
Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol, tosturiol a llawn cymhelliant, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth adsefydlu cymunedol ac i gynnal momentwm o ran trawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled y sefydliad ar gyfer pobl Caerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota.
Mae'r pandemig wedi dangos i ni yn fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio'n hyblyg.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/06/2025.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol o weithio mewn gwasanaeth therapïau
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
- Profiad o reoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau
- Profiad o hunanddatblygu a hunanddysgu
- Profiad o weithio'n annibynnol
- Profiad o gyfrannu at wella gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn amrywiaeth o dimau
- Profiad o weithio mewn gwasanaeth cymunedol
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymhwyster Lefel 3 sy'n berthnasol i'r gweithle, NEU hyfforddiant, cymwysterau neu brofiadau cyfatebol eraill
- Addysg lefel 4 NEU brofiad cyfatebol ac yn barod i gwblhau cymhwyster Lefel 4 perthnasol ymhen amserlen benodedig yn dilyn penodiad llwyddiannus
- Sgiliau TG, ynghyd â gwybodaeth dda am raglenni Microsoft Office a phrofiad o'u defnyddio
- Rhifedd a llythrennedd hyd at lefel 2 o leiaf (TGAU gradd C neu uwch)
- Gwybodaeth dda am adsefydlu trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithgareddau DPP sy'n gysylltiedig â'r rôl
- Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac addasiadau
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
- Gwybodaeth am fesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd ymyriadau
- Gwybodaeth am flaenoriaethau ac arferion y Bwrdd Iechyd
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg o ran oriau gwaith, dibynadwy, ac yn ymatebol i newid
- Yn barod i weithio a theithio ar draws amrywiaeth o ardaloedd yn y Bwrdd Iechyd i ddiwallu anghenion y gwasanaeth mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Amrywiaeth eang o ddiddordebau
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Adele Davies
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554899429
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Charlotte Davies
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector