Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arlwyo
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (4 diwrnod yr wythnos - Dydd Llun i Dydd Sul)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA002-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/02/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/02/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Arlwyo
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Arlwyo yn Ysbyty Cyffredinol y Tywysog Philip yn bwriadu recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo sy'n awyddus i ymuno â thîm mawr o unigolion yn yr adran i ddarparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo effeithiol ac effeithlon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol yn y tîm trwy sicrhau bod y bwyd yn cael ei baratoi a'i gyflenwi a bod yr adran yn cael ei glanhau i'r safon uchaf.
Y contract sydd ar gael ar hyn o bryd yw un swydd 30 awr. Mae'r contract hwn ar gyfer gweithio 4 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Sul. Bydd ymgeiswyr yn cael iwnifform a hyfforddiant llawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl hon yn cynnig amrywiaeth o ddyletswyddau, yn cynnwys coginio, porthora yn y gegin, gweithio yn y bwyty, a golchi llestri. Byddwch yn cael cymorth a hyfforddiant ar gyfer yr holl ddyletswyddau.
Yn rhan o'ch rôl goginio, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth coginio o ansawdd uchel i gleifion ac ymwelwyr yn yr ysbyty, fel ei gilydd, gan lynu wrth yr holl reoliadau diogelwch bwyd.
Yn rhan o'ch rôl fel porthor cegin, bydd eich dyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo'r cogydd â gofal gyda phob agwedd ar ddarparu bwyd, glanhau ardal y gegin yn drylwyr, a glanhau cyfarpar a ddefnyddir trwy gydol y dydd.
Yn rhan o'r rôl yn y bwyty, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog fel aelod o’r tîm blaen y tŷ. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ailgyflenwi ardaloedd a chynnal amgylchedd gwaith glân a hylan. Bydd yn ofynnol delio â thaliadau â cherdyn ac arian parod yn ogystal.
Yn rhan o'r rôl golchi llestri, byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio peiriant golchi llestri diwydiannol i sicrhau bod eitemau allweddol yn cael eu golchi a'u dychwelyd i'w hardaloedd dynodedig yn brydlon. At hynny, byddwch yn cadw'r ardal golchi llestri yn lân ac yn daclus.
Bydd yr adran yn darparu hyfforddiant llawn. Mae'r oriau gwaith rhwng 06:00 ac 20:00.
Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn cael y wisg gyfan.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 10/02/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn llythrennog a rhifog
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, COSHH, symud a chodi a chario (hyfforddiant yn y swydd)
- Lefel diogelwch bwyd 2 neu gyfwerth
Meini prawf dymunol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ 2
- Cymhwyster y Cynllun Croeso
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes lletygarwch neu mewn amgylchedd cegin
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
- Profiad o weithio yn amgylchedd cegin fawr
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ben Goddard
- Teitl y swydd
- Catering Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783732
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Cymorth neu bob sector





