Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Clerigol
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 26.5 awr yr wythnos (Ar benwythnosau a dyddiau'r wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC031-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £24,833 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/02/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/02/2026
Teitl cyflogwr
Clerc Ward
Band 2
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Glerc Ward brwdfrydig i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth gweinyddol i'r Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU).
Bydd deiliad y swydd yn helpu i sicrhau bod yr agweddau gweinyddol ar y ward yn cael eu cyflawni mewn modd didrafferth, a hynny trwy gynorthwyo'r staff proffesiynol gyda dyletswyddau clercol a gweinyddol, y bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan annatod ohonynt.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gan yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) 24 o welyau, gan gynnwys tri gwely dadebru lle gallwn dderbyn cleifion brys yn uniongyrchol o’r ambiwlansys.
Rydym yn chwilio am rywun gweithgar, llawn cymhelliant, sy'n rhoi sylw manwl i fanylion, i helpu i gefnogi staff y ward gydag ystod eang o dasgau gweinyddol.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys diweddaru systemau cyfrifiadurol yr ysbyty, trin a thrafod cofnodion meddygol, ac ateb y ffonau. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro.
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 27/02/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg o safon dda
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG: Microsoft ac ebost
- Darperir hyfforddiant yn y gwaith
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith Swyddfa/Gweinyddol
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Noot
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 781102
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





