Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol: 30 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig x 2
Oriau
  • Rhan-amser
  • Oriau tymor ysgol
  • Arall
30 awr yr wythnos (Oriau tymor ysgol)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS174-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Adnoddau Phil Bennett OBE
Tref
Llanelli
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
10/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Ddeintyddol Dyletswydd Estynedig

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn awyddus i symud ymlaen â'ch gyrfa ddeintyddol? Rydym yn chwilio am ddau unigolyn brwdfrydig sy'n gweithio'n dda mewn tîm i ymuno â'n Tîm Hyrwyddo Iechyd y Geg sydd wedi'i ymsefydlu'n gadarn. 

Rydym yn chwilio am ddwy nyrs ddeintyddol i gefnogi'r gwaith o ehangu'r rhaglen farnais fflworid mewn Ysgolion Cynradd fel rhan o gynllun iechyd ataliol ehangach. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys cyflwyno sesiynau addysg iechyd y geg i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 mewn Ysgolion Uwchradd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i ddeiliaid y swyddi fod yn gymwys i roi farnais fflworid ar ddannedd, a byddai profiad o gyfleu negeseuon iechyd y geg allweddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn fanteisiol.

Rhaid i ddeiliaid y swyddi fod yn barod i deithio ar draws Hywel Dda naill ai yn eu cerbydau eu hunain neu yn y faniau a ddarperir.

  • Darparu farnais fflworid ledled Ysgolion Cynradd yn Hywel Dda.
  • Cyflwyno addysg iechyd y geg ledled Ysgolion Uwchradd yn Hywel Dd

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Bydd y rôl yn gofyn am integreiddio â thîm hyrwyddo iechyd y geg profiadol i ehangu'r rhaglen farnais fflworid i ddisgyblion blwyddyn 6 ledled ysgolion cymwys Hywel Dda.  A chithau'n gofrestredig gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, bydd disgwyl i chi gymhwyso a glynu wrth safonau proffesiynol a gweithio'n unol â'ch cwmpas ymarfer.

Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi'r broses o ddatblygu a chyflwyno sesiynau addysg iechyd y geg i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 gan ddefnyddio ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Maent yn swyddi 4 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. Bydd deiliaid y swyddi wedi'u lleoli yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Phil Bennett OBE, Llanelli, SA14 8BE.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 01/07/2025 a chynhelir y cyfweliadau yn Hwlffordd ar 10/07/2025. Disgwylir i'r ymgeiswyr gyflwyno cyflwyniad PowerPoint 5 munud yn ystod y cyfweliad. Bydd y swyddi'n dechrau ar 01/09/2025.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Tara Gover (Arweinydd Gwella Gwasanaethau Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol) ar 01437604403.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Ddeintyddol Gymwys
  • Yn Gofrestredig gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • Yn cynnal gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus, hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd a lefelau cymhwysedd
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel gradd neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddarparu negeseuon iechyd y cyhoedd
  • Dilyn polisïau a gweithdrefnau cyfrinachedd y Cyngor Deintyddol Cyffredinol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Cydymffurfio â safonau croes-heintio cyfredol
  • Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol ac am gymryd rhan mewn Archwiliadau
  • Ymwybyddiaeth o reoli risg a Chanllawiau Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
  • Diploma NEBDN mewn Iechyd y Geg neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig
  • ECDL
  • Tystysgrif Addysgu
  • Ymwybyddiaeth o feini prawf cleientiaid y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a'u rôl
  • Dealltwriaeth o agenda ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda gwasanaeth deintyddol
  • Dull poblogaeth gyfan o fynd i'r afael â hyrwyddo iechyd
  • Y gallu i weithio mewn tîm a gweithio gan ddefnyddio eich menter eich hun
  • Profiad o ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol
  • Gwybodaeth am raglenni a phecynnau cymorth iechyd y geg
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda grwpiau cymhleth o gleifion
  • Profiad o gynnal archwiliadau. Tystiolaeth o weithio gyda thîm amlasiantaeth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Mae siaradwr Cymraeg (Lefel 1) yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tara Gover
Teitl y swydd
Service Lead Oral Health & Dental Services
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437604403
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ffion Williams - Uwch-reolwr Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol

[email protected]

Mob: 07813400384

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg