Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintyddol
- Gradd
- GIG AfC: Band 2
- Contract
- Parhaol: Yn ystod y tymor yn unig
- Oriau
- Oriau tymor ysgol - 37.5 awr yr wythnos (Oriau yn ystod y tymor yn unig)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS257-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Feddygol Gelli-Onn
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £26,300 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/11/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/12/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Cymorth Cynllun Gwên
GIG AfC: Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i ymuno â’n Tîm Hyrwyddo Iechyd y Geg sydd wedi’i hen sefydlu.
Mae hon yn swydd lawn-amser, yn ystod y tymor yn unig (37.5 awr).
Bydd angen i chi amlygu’r gallu i weithio’n annibynnol i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau meithrin yn cael eu cefnogi, a hynny i’w galluogi i gynnal gweithgarwch brwsio dannedd a farnais fflworid ar hyd y flwyddyn academaidd.
Rydym yn chwilio am unigolyn a fydd yn integreiddio’n dda yn y tîm ac sy’n barod i ddatblygu’r gweithgareddau Hyrwyddo Iechyd y Geg ehangach.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio dan gyfarwyddyd yr Ymarferydd Iechyd y Geg, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Rhaglen Iechyd y Geg, sef y Cynllun Gwên, trwy hyrwyddo ymddygiadau iechyd y geg cadarnhaol ymhlith plant, teuluoedd a gofalwyr. Mae’r rôl yn golygu darparu cyngor sylfaenol ar iechyd y geg, gan annog cyfranogiad mewn gweithgareddau iechyd y geg, a meithrin perthnasoedd cryf ag ysgolion a meithrinfeydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen. Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda digwyddiadau hybu iechyd, diwrnodau astudio, a mentrau sy’n canolbwyntio ar gleifion ledled y gymuned.
At hynny, byddwch yn darparu cymorth gweinyddol i’r tîm iechyd y geg, gan sicrhau bod cofnodion, tasgau casglu data a thasgau ar y cyfrifiadur yn cael eu cwblhau’n gywir. Yn rhan o’r rôl mae’n ofynnol gyrru faniau’r Cynllun Gwên a monitro gofynion cynnal a chadw’r cerbydau, gan gynnwys gwasanaethau, profion MOT ac atgyweiriadau. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith parhaus o fonitro, gwerthuso a gwella’r gwasanaeth, gan helpu i gynnal safonau ansawdd, a hynny wrth reoli eich llwyth gwaith yn effeithiol i gefnogi’r broses o gyflawni amcanion y rhaglen yn llwyddiannus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 10/12/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol;
- 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- TGAU Saesneg/Mathemateg neu gymhwyster lefel 2 cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster NVQ 2 yn ymwneud â maetheg neu gymhwyster cyfatebol, neu’n gweithio tuag at hynny
- Dealltwriaeth o rôl Iechyd y Geg mewn perthynas ag iechyd a chlefydau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn tîm ac o weithio gyda phobl
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o leoliadau ysgolion
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i yrru yn rhan o’ch dyletswyddau, ac yn gallu cyrchu eich trafnidiaeth eich hun pan na fydd dulliau teithio eraill yn rhesymol ymarferol. Ystyrir y gofyniad hwn yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ystyrir addasiadau rhesymol lle bo hynny’n briodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ffion Williams
- Teitl y swydd
- Senior Oral Health Promotion Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07813400384
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Meddygol a Deintyddol neu bob sector





