Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Meddyginiaeth
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST019-0326
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£48,527 - £55,532 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/03/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/04/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd ar gael i weithio’n rhan o’r tîm Osteoporosis yn Ysbyty'r Tywysog Phillip.


Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau fferylliaeth arbenigol i gleifion o fewn canllawiau y cytunwyd arnynt, a fydd yn cynnwys adolygu cleifion newydd a phresennol. Gellir cynnal adolygiadau naill ai'n rhithwir neu mewn clinig wyneb yn wyneb.


Bydd y clinigau’n golygu hysbysu ac arwain cleifion ynghylch manteision a sgileffeithiau amrywiol ymyriadau fferyllol, gan eu grymuso i wneud y penderfyniadau gorau i reoli eu hunain.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r Gwasanaeth Osteoporosis yn darparu gwasanaeth rheoli iechyd esgyrn arbenigol i boblogaeth Sir Gaerfyrddin, sy’n amrywio o ran oedran o ddiwedd yr arddegau i’r oedrannus iawn. Nod ein hymarfer sy’n canolbwyntio ar y claf yw helpu cleifion i wneud penderfyniadau sy’n iawn iddyn nhw.


Bydd yr ymgeisydd am y swydd ychwanegol hon yn gweithio’n agos gyda’r tîm presennol, gan reoli ei lwyth achosion ei hun, adolygu cleifion newydd a phresennol a chymryd rhan mewn trafodaethau achos yn ôl y gofyn. Mae’r Gwasanaethau Osteoporosis yn datblygu’n gyflym yn y Bwrdd Iechyd ac yn cynnwys Gwasanaeth Cyswllt Torasgwrn ledled y Bwrdd Iechyd. Rydym yn cynnig ystod lawn o driniaethau iechyd esgyrn, gan gynnwys meddyginiaeth wrth-adsugno heb fod trwy’r geg, a gwahanol fathau o therapi anabolig.


Bydd y swydd hon yn cynnig cyfleoedd eang i ymgeiswyr ddatblygu arbenigedd clinigol mewn asesu a rheoli arbenigol o ran osteoporosis a chyflyrau eraill sy’n effeithio ar iechyd esgyrn, megis clefyd Paget a cholled esgyrn sy’n gysylltiedig â steroidau. Ymhlith y meysydd posibl eraill i’w datblygu y mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig, gweithio rhithwir mewn lleoliad cleifion allanol, prosiectau archwilio a gwella ansawdd, a chyfleoedd addysgol wedi’u teilwra i’r swydd.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 97 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Cynhelir y cyfweliadu ar 13.04.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd) neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Fferyllydd Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig.
  • Diploma mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Gwybodaeth am faes arbenigol fel y disgrifir yn yr hysbyseb swydd
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr, technegwyr, cynorthwywyr a myfyrwyr
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor Cyn-gofrestru Achrededig
  • Tiwtor Fferylliaeth Diploma Achrededig
  • Presgripsiynydd Annibynno

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad hynod ddatblygedig ym maes gofal iechyd
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn o leiaf un maes rheoli meddyginiaethau arbenigo
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yr hyblygrwydd i ymgymryd â dyletswydd frys, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc ac agor gyda'r nos
  • Yn meddu ar ymagwedd hyblyg
  • Teithio rhwng safleoedd a'r tu allan i'r sefydliad
  • Yn deall ac yn amlygu ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Will Backen
Teitl y swydd
Bone Health Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg