Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
Band 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Arall
Dylai diwrnodau gwaith gyd-fynd â diwrnodau Clinig Oncoleg Feddygol.
Cyfeirnod y swydd
100-NMR150-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Glinigol Arbenigol Oncoleg

Band 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi dod ar gael i nyrs canser brofiadol ymuno â Thîm Oncoleg 
anfeddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei leoli yn Ysbyty Tywysog Philip a bydd, yn bennaf, yn cefnogi pobl â diagnosis o ganser y fron y mae arnynt angen triniaeth gwrthganser systemig sy'n cynnwys cyffur ategol. Yn achlysurol, bydd angen cefnogi cleifion sy'n cael eu trin ar gyfer mathau eraill o ganser.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn y Tywysog Philip, ond bydd gweithio hyblyg yn cael ei gefnogi.

Byddwch yn rhan hanfodol o'r clinig Oncoleg y Fron, a byddwch yn cefnogi cleifion trwy gyswllt yn y clinig ochr yn ochr â'r tîm meddygol, mewn clinigau dan arweiniad nyrsys, a thrwy apwyntiadau dilynol y tu allan i oriau clinig. 

Os nad ydych eisoes yn bresgripsiynydd anfeddygol annibynnol, cewch eich cefnogi i gwblhau'r cymhwyster hwn cyn diwedd eich blwyddyn gyntaf yn y swydd. Bydd gennych brofiad o reoli gwenwyndra triniaeth gwrth-ganser systemig. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon: mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir cyfweliadau ar 09/06/25

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymarferydd Cofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd meistr neu brofiad cyfatebol
  • Lefel arbenigol o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
  • Gwybodaeth am wella gwasanaethau
  • Y gallu i wneud chwiliad llenyddiaeth a gwerthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o lefel uwch o ddatblygu ymarfer yn eich maes arbenigol.
  • Cymhwyster addysgu
  • Cymhwyster Rheolaeth
  • Sgiliau clinigol uwch
  • Cwrs Presgripsiynu Anfeddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol helaeth o weithio ym maes eich arbenigedd.
  • Profiad o wneud penderfyniadau cymhleth
  • Profiad mewn perthynas â sgiliau cyfathrebu mewn sefyllfaoedd sy'n ennyn ymatebion emosiynol iawn
  • Profiad lle bu angen rhywfaint o waith ymreolaethol
  • Profiad yn yr arbenigedd perthnasol
  • Profiad o weithio amlbroffesiynol
  • Profiad o waith Archwilio
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli pobl
  • Profiad o waith Ymchwil
  • Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn cofrestru

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Niamh Dunn
Teitl y swydd
Oncology CNS
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 774373
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Bry Phillips

Uwch Reolwr Nyrs Oncoleg

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg