Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 6
Contract
2 flynedd (Cyfnod penodol/secondiad tan 31/08/2027 oherwydd cyllid)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan mewn ar alwad, penwythnos, Gŵyl y Banc a rotas hwyr)
Cyfeirnod y swydd
100-PST016-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
11/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fferyllydd Clinigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

A ydych newydd gymhwyso neu'n chwilio am gyfle i newid gyrfa? A yw'r syniad o ddatblygu a dysgu mewn amrywiaeth o arbenigeddau clinigol yn apelio atoch?

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy'n frwd dros wella gofal ac yn rhannu gwerthoedd ein bwrdd iechyd i ymuno â'n tîm bach gofalgar o fferyllwyr. Mae Ysbyty'r Tywysog Philip wedi'i leoli'n gyfleus ar hyd coridor yr M4 ac yn cwmpasu amrywiaeth o arbenigeddau meddygol a llawdriniaethau dewisol.

Byddwch yn ymuno â thîm o fferyllwyr a thechnegwyr profiadol, a chewch eich cefnogi mewn amgylchedd gwaith anogol i ddatblygu eich gyrfa ac ymgymryd â’r cymhwyster rhagnodi.   Byddwch yn rhan o'r broses gyffrous o gyflwyno'r gwasanaeth Presgripsiynu a Rhoi Meddyginiaethau yn electronig (ePMA) gan gefnogi cyd-weithwyr ar draws y tîm 
amlddisgyblaethol wrth i ni ymgorffori systemau digidol yn ein hymarfer. Byddwch yn cael cefnogaeth i ymgymryd â'ch cymhwyster presgripsiynu ac yn gweithio'n agos yn eich arbenigedd dewisol i feithrin eich sgiliau ymgynghori a'ch arbenigedd clinigol.

Bydd disgwyl i chi ymgymryd â rôl fferyllydd cyfrifol, a bydd gofyn i chi ymgymryd ag Ymrwymiad Dyletswydd Argyfwng (ar alwad), ynghyd â gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc, yn rhan o rota.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y candidate llwyddiannus yn ymgymryd â rôl fferyllydd clinigol yn ôl trefn rota gan weithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn y fferyllfa a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach. 

Bydd ein tîm bach a chyfeillgar yn eich cefnogi i ddatblygu eich ymarfer mewn ystod eang o feysydd clinigol. Mae'r rhan fwyaf o'r fferyllwyr a gwblhaodd hyfforddiant sylfaen yn camu ymlaen yn yr adran a'r Bwrdd Iechyd ac yn parhau i bresgripsiynu a datblygu eu rôl yn eu harbenigedd 
dewisol. 

Mae'r swydd yn cynnwys cyfleoedd datblygu ffurfiol trwy Raglen Hyfforddiant Sylfaen Ôl-gofrestru AaGIC. Mae'r cymhwyster hwn yn darparu sylfaen i ddatblygu gyrfa ragorol, ynghyd â llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. I fodloni’r meini prawf ar gyfer rhaglen hyfforddi ôlsylfaen AaGIC, rhaid i chi fod yn cymhwyso ym mis Gorffennaf 2025, neu dylech fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar ôl mis Gorffennaf 2024.

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/08/2027 oherwydd cyllid.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 11/07/2025.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd neu gyfwerth)
  • Aelod o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (fferyllydd cofrestredig neu hyfforddai fferylliaeth cyngofrestru yn ystod y broses ymgeisio; rhaid bod yn fferyllydd cofrestredig ar y dyddiad dechrau)
  • Cymhwyster mewn Saesneg Iaith – TGAU gradd C neu uwch neu sgor IELTS o 6.5 mewn ysgrifennu a 6.0 yn yr holl gydrannau eraill
  • Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am ofal iechyd mewn fferyllfa, a phrofiad ohono
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau
  • Profiad o weithio mewn ysbyty
  • Gwasanaethau Technegol
  • Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr cyn-gofrestru, technegwyr a chynorthwywyr
  • Profiad ym maes gofal sylfaenol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg Lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mary Williams
Teitl y swydd
Clinical Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783750
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mari Treharne 

[email protected]

01554 783210

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg