Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Gweithio ar benwythnosau, gweithio ar wyliau banc, ac ymrwymiad i ddyletswydd frys. Llawn-amser ond rhoddir ystyriaeth i rannu swydd neu weithio'n rhan-amser)
Cyfeirnod y swydd
100-PST024-0725-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£54,550 - £61,412 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/08/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-fferyllydd ac Ymarferydd Athrawon

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn chwilio am her newydd? A ydych yn frwdfrydig ynghylch hyfforddi cenhedlaeth newydd o Fferyllwyr, wrth barhau i ddatblygu eich arbenigedd clinigol? 

Mae cyfle cyffrous a heriol wedi dod ar gael ar gyfer Uwch-fferyllydd Clinigol brwdfrydig, blaengar a llawn cymhelliant i arwain y gwasanaeth fferyllol a ddarperir i faes meddygol yn Ysbyty'r Tywysog Philip, ac ymarferydd addysgu ym Mhrifysgol Abertawe, i gyflwyno a chefnogi'r cwrs MPharm. Bydd y swydd wedi'i rhannu, a byddwch yn treulio deuddydd yr wythnos yn gweithio ar Gampws Singleton y Brifysgol a thridiau yn yr ysbyty acíwt. Mae'r swydd yn un lawn-amser, ond rhoddir ystyriaeth i geisiadau am waith rhan-amser a rhannu swydd. 

Rydym yn dîm blaengar sy’n canolbwyntio ar y claf ac yn gweithio’n agos gyda’r timau amlddisgyblaethol i wella diogelwch cleifion trwy roi cyngor proffesiynol i bresgripsiynwyr, cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion, a mynychu rowndiau wardiau y meddygon ymgynghorol. Rydym yn gweithio'n barhaus i ysgogi arloesedd a datblygu staff, er mwyn cefnogi'r gwasanaeth fferyllol a chaniatáu rhagor o amser i gefnogi gofal uniongyrchol i gleifion. Byddwch yn rhan o'r broses gyffrous o gyflwyno'r gwasanaeth Presgripsiynu a Rhoi Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) gan gefnogi cyd-weithwyr ar draws y tîm amlddisgyblaethol wrth i ni ymgorffori systemau digidol yn ein hymarfer. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwella hyfforddiant ac addysg Fferyllwyr. Yn y brifysgol byddwch yn rhan o'r tîm Fferylliaeth, ac yn cyfrannu at gyflwyno'r rhaglen MPharm a darparu cefnogaeth fugeiliol a phroffesiynol i fyfyrwyr.

Yn rôl Uwch-fferyllydd, byddwch yn gyfrifol am gydgysylltu a darparu gwasanaeth fferyllol clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar wardiau meddygol cyffredinol, gan ddatblygu ei rôl fferyllol gyda'r potensial i ddatblygu mewn clinigau dan arweiniad fferyllwyr i fod yn Bresgripsiynydd Annibynnol.

Byddwch yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol, yn monitro gwariant ariannol ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil a gwella gwasanaethau, ynghyd â chefnogi'r gwasanaethau fferyllol craidd yn y ddosbarthfa ac ar wardiau. A chithau'n ymarferydd addysgu, byddwch yn sicrhau bod israddedigion fferylliaeth yn meithrin sgiliau proffesiynol a chlinigol, yn ogystal â sgiliau sy'n canolbwyntio ar y claf, trwy gydol eu hyfforddiant. Byddwch yn cyflwyno darlithoedd a gweithdai ac yn chwarae rhan bwysig yn y broses o werthuso ymarfer clinigol, fferyllol a sgiliau proffesiynol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn y Grŵp Addysgu Ymarfer Fferylliaeth, a hefyd yn cefnogi'r gwaith o weinyddu'r cwrs.

Fel rhan o'n tîm fferylliaeth cyfeillgar a brwd, byddwch yn cyfrannu at y broses o optimeiddio meddyginiaethau. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

 

Darperir ein gwasanaethau yn:

 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd yn gofyn am fferyllydd llawn cymhelliant sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, a datrys problemau rhagorol. Mae'r tîm fferyllol arloesol a chyfeillgar wedi hen sefydlu yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn uchelgeisiol a llawn cymhelliant, yn sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar les gorau ein cleifion, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â: 

Mari Treharne, Rheolwr Safle'r Fferyllfa, Ysbyty'r Tywysog Philip ar 01554 783210 neu [email protected], Mary Williams, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ar 01554 783206 neu [email protected], neu'r Athro Amira Guirguis ym 
Mhrifysgol Abertawe [email protected]

Anogir ymgeiswyr i gysylltu â ni i drafod y rôl neu i ymweld â'r adrannau.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu 11/08/25

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn Fferylliaeth
  • Fferyllydd cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • MSc neu Ddiploma ôl-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
  • Presgripsiynydd Annibynnol
Meini prawf dymunol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Aelodaeth o gorff arbenigol, e.e. UKCPA
  • Cymhwyster addysgu ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol
  • Goruchwylydd achrededig ar gyfer Fferyllwyr sylfaen neu ôlsylfaen
  • Gwybodaeth arbenigol amlwg mewn mwy nag un maes

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Gwybodaeth am ofal iechyd a phrofiad ohono
  • Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant lefel diploma a phrofiad
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ymchwil ymarferol
  • Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd â gwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg – (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mari Treharne
Teitl y swydd
Pharmacy Site Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783210
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rydym yn annog pob ymgeisydd i gysylltu â Mari Treharne, Rheolwr Safle'r Fferyllfa, Ysbyty'r 
Tywysog Philip ar 01554 783210 neu [email protected]

neu Mary Williams, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ar 01554 783206 neu 
[email protected]

neu'r Athro Amira Guirguis ym Mhrifysgol Abertawe [email protected].

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg