Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- 17 mis (Cyfnod penodol/secondiad am 17 mis tan 31/03/2027 oherwydd gofynion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST029-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/09/2025
Teitl cyflogwr

Technegydd Fferyllol Uwch
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad am 17 mis tan 31/03/2027 oherwydd gofynion y gwasanaeth.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Dechnegydd Fferylliaeth Cofrestredig (GPhC) cymwys ymuno â'n tîm Fferylliaeth cyfeillgar yn Ysbyty Tywysog Philip.
Rydym yn ymdrechu i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i'n cleifion ac rydym yn chwilio am Dechnegydd Fferylliaeth ysgogol, blaengar gydag ymagwedd hyblyg tuag at anghenion y gwasanaeth. Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa mewn amgylchedd arloesol a chefnogol.
Mae'r tîm fferyllol arloesol a chyfeillgar wedi hen sefydlu yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn uchelgeisiol a llawn cymhelliant, yn sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar les gorau ein cleifion, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Ar hyn o bryd, mae'r Adran Fferylliaeth yn cyflogi tua 50 o aelodau staff.
Bydd gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan yn y rota penwythnosau a gwyliau banc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymgymryd â'r gwaith o ddydd i ddydd o oruchwylio a chefnogi staff rheolaidd y fferyllfa sy'n gweithio yn y maes hwn, Swyddogion Technegol Cynorthwyol sy'n dosbarthu, a Thechnegwyr Fferyllfa Cyn-gofrestru. Cynnal y gwiriad terfynol o gywirdeb a rhyddhau presgripsiynau a ddosberthir gan staff eraill y fferyllfa yn rôl Technegydd Gwirio Cywirdeb Fferyllfa (ACPT). Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu'r broses o wirio'r llwyth gwaith er mwyn sicrhau bod eitemau brys yn cael eu prosesu mewn modd priodol.
Ymgymryd â dyletswyddau dosbarthu, gan gynnwys dilysu a dosbarthu meddyginiaethau ar gyfer cleifion mewnol, cleifion dydd a chleifion allanol sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, a hynny'n unol â'r Trefniadau Gweithredu Safonol ar gyfer Dosbarthu a safonau labelu. Awgrymu newidiadau i'r rhain pan nodir bod hynny'n ofynnol, a rhoi gwelliannau cytunedig ar waith, gan raeadru i'r aelodau priodol o'r tîm.
Darparu gwasanaeth rheoli meddyginiaethau (sy'n cynnwys cysoni meddyginiaethau) trwy goladu ffynonellau gwybodaeth. Gall hyn gynnwys chwilio trwy nodiadau meddygol am lythyrau meddygon teulu, ffurflenni presgripsiynau amlroddadwy, presgripsiynau rhyddhau diweddar, a chymryd cofnodion hanes cyffuriau a chofnodion gweinyddu meddyginiaethau o gartrefi nyrsio. Gall hefyd olygu cysylltu â meddygfeydd teulu a fferyllwyr cymunedol, cyrchu'r porth clinigol, a/neu gael a gwirio meddyginiaethau'r cleifion eu hunain. Gwneud cyfrifiadau syml a monitro canlyniadau profion clinigol lle bo hynny'n briodol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/09/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i lefel gradd neu lefel gyfatebol, e.e. Gwybodaeth am weithdrefnau technegol fferyllol a gafwyd trwy hyfforddiant Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 yn Ymarfer Technegwyr Fferyllfa, neu NVQ 3 a BTEC neu gymhwyster cyfatebol mewn gwyddor fferyllol
- Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Technegydd Fferyllfa Gwirio Achrededig (ACPT)
- Technegydd Fferyllfa Rheoli Meddyginiaethau Achrededig. (MMPT
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant goruchwylydd addysgol
- Hyfforddiant goruchwylydd clinigol
- Meddyginiaethau Fferyllfa PWDS
- Rhaglen Hyfforddiant Optimeiddio (PMOTP) – Uned 3 Blaenoriaethu Clinigol neu gyfwerth.
- Cymhwyster/profiad rheoli
- Cymhwyster sgiliau ymgynghori
- Cymhwyster arwain
- Cyflwyniad i Addysg a hyfforddiant
- Diploma Clinigol Uwch Lefel 4 Diploma addysg uwch mewn ymarfer Technegydd Fferyllfa uwch
- Cymhwyster CIPS mewn caffael
- Ymgymryd â hyfforddiant perthnasol a chyflawni'r cymwyseddau gofynnol ar gyfer rhoi meddyginiaeth i gleifion mewnol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth ym maes gofal cymunedol, sylfaenol neu eilaidd
- Profiad helaeth o hyfforddi staff ar raddau gwahanol
- Profiad o oruchwylio staff
- Profiad o flaenoriaethu'r llwyth gwaith yn glinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain gwasanaeth
- Profiad o ddarllen a dehongli canlyniadau gwaed
Arall
Meini prawf hanfodol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, sy'n cynnwys gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Graham
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician for Patient Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783209
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
- Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran fferylliaeth, cysylltwch ag Emma Graham ar 01554 783209.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector