Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fflebotomi
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (2 x 22.5 awr yr wythnos dros 4 diwrnod rhwng 08:30 a 17:00)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS067-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Fflebotomydd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy RecruitmentCampaigns.hdd@wales.nhs.uk

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio 20 awr yr wythnos. Swydd barhaol, ran-amser yw hon yn adain Fflebotomi yr Adran Patholeg yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli.

Mae yna ofyniad i gymryd rhan yn y rota ar gyfer dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.  (Mae yna dâl ychwanegol i staff ar y rota hon.)

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth ac ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau sy'n briodol i'r adain, ond bydd yn ymwneud yn bennaf â thynnu samplau gwaed i'w dadansoddi o'r Wardiau, yr Adran Cleifion Allanol a'rClinigauAllgymorth.

Darperir hyfforddiant ar ddechrau ar gyfer agweddau sy'n benodol i'r adran.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth Fflebotomi effeithlon, gofalgar a hwylus, a bydd yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu gwasanaeth casglu samplau gwaed i wardiau, clinigau a lleoliadau eraill yn ôl yr angen. Mae'r gwaith yn gofyn am agwedd hyblyg at oriau cyflogaeth.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). 
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar  17.06.2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhifedd ac iaith sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Tystysgrif hyfforddiant fflebotomi
  • Tystysgrif Samplu Cyn Trallwysiad
  • NVQ lefel 2 neu gyfwerth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o fflebotomi
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd clinigol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samantha Jones
Teitl y swydd
Phlebotomy Team Leader
Cyfeiriad ebost
samantha.jones28@wales.nhs.uk
Rhif ffôn
01554 783056
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Huw Davies 

Rheolwr yr Adain Hematoleg

huw.davies5@wales.nhs.uk

01554 783056

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg