Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Oriau cywasgedig
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP047-0525
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Porth Dwyrain, Llanelli - Tîm Adnoddau Cymunedol
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 20/06/2025
Teitl cyflogwr

Ffisiotherapydd Arbenigol (Cymunedol)
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ffisiotherapydd dynamig ac ymroddedig sy’n chwilio am gyfle gwerth chweil i gael effaith sylweddol ar fywydau unigolion yng nghymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Dyma'r swydd i ch! Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Ffisiotherapydd hynod fedrus, llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Adsefydlu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin.
O fod yn Ffisiotherapydd Cymunedol Arbenigol, byddwch yn cyfrannu at batrwm sy'n blaenoriaethu unigrywiaeth unigolion ac yn grymuso cleifion i gyflawni'r gweithrediad a'r ffyniant gorau posibl. Mae ein diwylliant yn seiliedig ar gydweithio, tosturi a chyd-ymrwymiad i gyflawni rhagoriaeth. Dyma swydd lle bydd eich angerdd yn cael ei roi ar waith, a daw eich ymrwymiad yn gatalydd i lunio naratif adsefydlu ein cymuned.
Mae'r Tîm Cymunedol Ffisiotherapi yn tyfu ac yn esblygu'n gyflym. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn wedi amlygu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i wella mynediad at wasanaethau adsefydlu mor agos i gartref â phosibl i'n poblogaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos fel rhan o dîm amlddisgyblaethol dynamig ehangach, mwy o faint, o Therapyddion Galwedigaethol, Nyrsys, Gweithwyr Cymdeithasol, Deietegwyr, Fferyllwyr Cymunedol a Gwasanaethau'r Trydydd Sector i enwi dim ond rhai. Er mwyn darparu gofal amserol, di-dor sy'n canolbwyntio ar y claf, mae'n hanfodol integreiddio â'r Ysbytai Acíwt, Ysbytai Cymunedol, y Gwasanaethau Blaen Tŷ (TOCALS) a'r Gwasanaethau Gofal Canolraddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn asesu, datblygu a gweithredu cynlluniau triniaeth personol, sydd wedi'u cydgynhyrchu, ar gyfer cleifion ag ystod amrywiol o gyflyrau, a hynny yn eu cartrefi eu hunain, mewn dosbarthiadau yn y gymuned ac mewn clinigau cleifion allanol. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf er mwyn meithrin annibyniaeth a llesiant.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y broses o hyrwyddo mentrau i roi strategaethau adsefydlu blaengar ar waith, i ddatblygu gwasanaethau ac i gyfrannu at enw da ein sefydliad am arloesi.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth ac yn ôl trefn rota. Bydd ganddo'r sgiliau gofynnol i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol Ar Alwad a Mewngymorth Penwythnos.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd feddu ar allu rhagorol i reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol, a bydd disgwyl iddo gefnogi a goruchwylio staff Ffisiotherapi iau, a gallu teithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n tri awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
Pum ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sy'n croesawu dulliau arloesol o ymdrin ag adsefydlu, gan eich grymuso i roi arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i ysgogi canlyniadau cadarnhaol i'ch cleifion.
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau yn ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd.
Yn ein gwasanaeth, rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf ac yn buddsoddi yn eu twf proffesiynol. Rydym yn darparu cyfleoedd cynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn fewnol ac yn allanol, lle anogir staff i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig (cyfleoedd i wneud cais am gyllid a rennir).
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i groesawu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd a thrwy hynny wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Yn ein hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg gyda chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni’r gofynion Iaith Gymraeg a nodir, mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir cyfweliadau ar 20/06/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgilian TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Yn cyfranogi'n frwd i grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota ar alwad anadlol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio mewn tim rhyng-broffesiynol
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio i'r GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mari Miles
- Teitl y swydd
- Lead Physiotherapist for CRT LLanelli
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07729330693
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cewch groeso cynnes yma os dymunwch drefnu ymweliad.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector