Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Research
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 01/09/2027 - Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC200-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sefydliad Tritech ac Arloesi,
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £39,959 - £48,117 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/08/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Ymchwil ac Arloesi
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/09/2027. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Bydd y Swyddog Ymchwil ac Arloesi yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau ymchwil, gwerthuso ac arloesi ar draws yr Adran Arloesi a Tritech.
Gan weithio’n annibynnol a chydweithio â thimau amlddisgyblaethol, bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cydlynu astudiaethau ymchwil a gwerthusiadau o’r gwasanaeth, yn casglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol, ac yn cyfrannu at adroddiadau, cyhoeddiadau, ceisiadau am gyllid, a mentrau gwella gwasanaethau.
Mae’r rôl yn cynnwys monitro cynnydd prosiectau, sicrhau cydymffurfedd â safonau rheoleiddio a llywodraethu ymchwil, darparu arbenigedd a hyfforddiant ymchwil arbenigol, a chefnogi’r gwaith o droi canfyddiadau ymchwil yn welliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau cleifion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau’n Swyddog Ymchwil ac Arloesi, byddwch yn cefnogi prosiectau ymchwil, gwerthuso ac arloesi sy’n gwella gwasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau cleifion ar draws y Bwrdd Iechyd. Gan weithio gyda chlinigwyr, academyddion, cleifion a sefydliadau partner, byddwch yn helpu i gynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiectau sy’n cefnogi ymarfer seiliedig ar dystiolaeth a gwella gwasanaethau.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys arwain a chefnogi astudiaethau ymchwil, gwerthusiadau a mentrau arloesi; casglu a dadansoddi data ansoddol a meintiol; paratoi adroddiadau ac argymhellion; monitro cynnydd prosiectau; a chyfleu canfyddiadau i randdeiliaid. Byddwch yn cydweithio â thimau’r GIG, prifysgolion, diwydiant, a phartneriaid y trydydd sector, wrth sicrhau cydymffurfedd â gofynion llywodraethu a rheoleiddio.
Byddwch hefyd yn cefnogi ceisiadau am gyllid, yn hyrwyddo’r gwaith o ledaenu canfyddiadau, ac yn darparu arweiniad i gyd-weithwyr sy’n ymwneud â gweithgareddau ymchwil ac arloesi.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ym maes ymchwil, gwerthuso, neu gyflawni prosiectau, sgiliau dadansoddi a chyfathrebu cryf, gwybodaeth am ddulliau ymchwil a llywodraethu gwybodaeth, a’r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol. Mae cymhwyster ôl-raddedig perthnasol, neu brofiad cyfatebol, yn ddymunol.
Mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at welliannau ystyrlon mewn gofal iechyd a chael effaith gadarnhaol ar ofal cleifion a darparu gwasanaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/08/2026
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel diploma ôl-raddedig mewn maes perthnasol neu lefel gyfatebol o wybodaeth am ddylunio a dulliau ymchwil, fel y'i hymarferir mewn amgylchedd ymchwil
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth am Ddadansoddi Thematig neu ddulliau tebyg o ddadansoddi data ansoddol
- Gwybodaeth am derminoleg glinigol ac ymchwil. Dealltwriaeth dda o ddulliau ymchwil, dadansoddi, a Llywodraethu Gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Meistr neu PhD neu gymhwyster doethurol perthnasol arall wedi'i gwblhau neu sydd ar fin cael ei gwblhau
- Hyfforddiant arbenigol perthnasol pellach, profiad neu gymhwyster.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad o weithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol y GIG.
- Profiad mewn dylunio ymchwil a choladu a dehongli data ansoddol a meintiol.
- Tystiolaeth o brofiad o gasglu, dadansoddi ac adrodd data ansoddol i safon gyhoeddadwy neu broffesiynol
- Profiad o weithio'n annibynnol.
- Profiad o wneud penderfyniadau a datrys problemau
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli prosiectau.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol.
- Dull hyblyg o anghenion gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amy Campbell
- Teitl y swydd
- Research Associate
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





