Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Research
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- 12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 01/09/2027)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC199-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sefydliad Tritech ac Arloesi,
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £28,819 - £31,626 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/08/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 11/08/2026
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Ymchwil Tritech ac Arloesi
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/09/2027. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae’r Cynorthwyydd Ymchwil Tritech ac Arloesi yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi prosiectau ymchwil, arloesi a gwerthuso ledled y Bwrdd Iechyd.
Mae’r rôl yn cynnwys cydlynu gweithgareddau prosiectau, rheoli data a dogfennaeth, cefnogi treialon clinigol a gwerthusiadau gwasanaethau, trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, a gweithio’n agos gyda thimau clinigol, academyddion, arbenigwyr digidol a phartneriaid diwydiant i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n llwyddiannus.
Dylai’r ymgeisydd hwn gyfrannu’r sgiliau a’r ymrwymiad sy’n ofynnol i helpu i gyflawni prosiectau ymchwil ac arloesi o safon sy’n gwella gofal cleifion a gwasanaethau gofal iechyd. Bydd eich gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, rheoli gwybodaeth gymhleth, a chyfrannu at fentrau gofal iechyd arloesol yn eich gwneud yn ased gwerthfawr i Sefydliad Tritech a’r Tîm Arloesi.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau cydweithredol ac yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau, gan gyfathrebu’n broffesiynol â chleifion, gofalwyr a chydweithwyr, a hynny wrth drin gwybodaeth sensitif â chyfrinach.
Mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd, gweithdai a gweithgareddau prosiectau; cynnal dogfennau astudio a systemau ffeilio; trefnu ymweliadau clinigol a gweithgareddau monitro; a chefnogi’r gwaith o adnabod a recriwtio cleifion dan oruchwyliaeth. Byddwch hefyd yn cynorthwyo i baratoi adroddiadau, cyflwyniadau a diweddariadau ar brosiect gan ddefnyddio systemau digidol a
chymwysiadau Microsoft Office. Mae hyn yn gofyn am sgiliau trefnu cryf, sylw i fanylion, galluoedd cyfathrebu rhagorol, a hyder wrth ddefnyddio Microsoft Office, cronfeydd data ac offer adrodd.
Byddwch yn gweithio’n annibynnol wrth gyfrannu’n effeithiol at dîm amlddisgyblaethol, rheoli blaenoriaethau cystadleuol a chefnogi prosesau parhaus i wella gwasanaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 11/08/2026
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- NVQ Lefel 3 neu wybodaeth gyfatebol ym maes gofal iechyd
- Profiad blaenorol mewn amgylchedd ymchwil/yn y GIG
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebo
- ECDL
- Tystysgrif ICH mewn Ymarfer Clinigol Da
- Gwybodaeth am egwyddorion treialon clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hyfedredd mewn cymwysiadau Microsoft Office, gan gynnwys Excel, Word, PowerPoint, Teams, a SharePoint
- Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn uned treialon clinigol
- Profiad o ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Cleifion
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddo
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amy Campbell
- Teitl y swydd
- Research Associate
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





